Sain Records

ALISTAIR JAMES

Bywgraffiad

Mae’n bleser gan label SAIN gyhoeddi albwm cyntaf y canwr-gyfansoddwr o Lanfairfechan, Alistair James. Albwm 12 cân gan Alistair a’i dîm o gyfansoddwyr, sy’n cynnwys Simon Gardner (cyn Sony Epic) ac Andrew Moore (Dare). Cynhyrchwyd a recordiwyd yr albwm gan y tîm yn Stiwdios Rockcliffe, Llandudno rhwng Ionawr 2005 ac Ebrill 2006. Mae arddull Alistair wedi cael ei ddisgrifio fel ‘Canu Gwlad Newydd’, ond mae’r casgliad o ganeuon sydd ar yr albwm yn amrywiol eu naws a’u cynnwys – o faledi pwerus i felodïau hudolus ac alawon cyflym sy’n gwneud i’r traed symud i’r bît! Gyda cherddorion o’r radd flaenaf fel band cefndir, caneuon sy’n cyffwrdd yr enaid, geiriau a barddoniaeth cyffrous a llais Alistair yn symud yn naturiol o un arddull i’r llall, dylai’r CD hwn blesio rhychwant eang o wrandawyr. Ganwyd Alistair ym Mangor, ac mae wedi byw yn Llanfairfechan erioed gan fynychu Ysgol Aberconwy ble y daeth yn gitarydd a phianydd amlwg. Mynychodd Goleg Llandrillo gan ennill tystysgrif HND yn y Cyfryngau Creadigol a Rhyngweithiol a ddyfarnwyd gan Brifysgol Morgannwg. Er mai 22 yn unig yw Alistair, mae’r diwydiant cerddoriaeth yn gyfarwydd iawn iddo, ac mae wedi bod yn perfformio ei sioe unigol ers dros chwe blynedd mewn tafarndai, gwestai a chlybiau o gwmpas Gogledd Cymru. Mae ganddo’r gallu a’r weledigaeth i fod yn un o brif gantorion canu gwlad y dyfodol.

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords