Sain Records

BOB ROBERTS (TAI’R FELIN)

Bywgraffiad

Mae'n bosib dweud mai Bob Roberts, o Dai'r Felin ger Fron-goch, y Bala, oedd canwr pop cyntaf y Gymraeg! Wedi bod yn canu baledi a cherdd dant ar hyd ei oes, daeth i sylw'r genedl diolch i 'Noson Lawen' y BBC dan arweiniad Sam Jones, ac yntau ymhell yn ei saithdegau. Wedi poblogrwydd y gyfres radio, teithiodd Bob Roberts i bob rhan o Gymru i ganu, fel rheol gyda pharti o ardal y Bala, dan arweiniad Llwyd o'r Bryn, a chyhoeddodd nifer o recordiau. Tyrrai'r bobl i'w glywed, ac yr oedd yn ffefryn arbennig gan y merched, a fynnai gael ei lofnod; roedd Bob-mania yn rhagflaenu Beatlemania o ddau ddegawd! Ond y ffaith syml amdani oedd fod gan Bob Roberts bopeth oedd ei angen i gynhyrfu'r gwaed - llais fel cloch, personoliaeth befriog, a rhyw dinc hanner ffordd rhwng direidi a thristwch yn ei lais - a'r peth arall anniffiniol hwnnw sy'n codi ambell i berfformiwr i dir uwch na'r rhelyw. Clywir ei draciau gorau ar SAIN SCD 2608.

Traciau ar hap

  1. No Tracks Found

Albymau

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords