BOIS Y CASTELL
Bywgraffiad
Mae Bois y Castell yn enwog am eu dawn i gyfuno'r naturioldeb sy'n rhan o ganu gwerin a'r ddisgyblaeth y mae'n rhaid wrtho mewn canu corawl. Dan arweiniad sicr Nia Clwyd, mae'r bois o Sir Gar yn cyfrannu'n gyson i fwrlwm y diwylliant Cymraeg.



