BRYN FON
Bywgraffiad
Mae Bryn Fon yn un o gewri'r byd adloniant Cymraeg, a'i dalent fel perfformiwr ac actiwr yn ategu ei ddoniau lleisiol. Daeth i amlygrwydd gyntaf fel canwr Crysbas, ac yna'n ddiweddarach fel prif ganwr Sobin a'r Smaeliaid, a chyhoeddwyd caneuon gorau Sobin ar label Sain (SAIN SCD 2521). Erbyn hyn, mae’n ymddangos yn rheolaidd ar lwyfannau Cymru gyda’i fand ei hun. Mae'n un o'r ychydig sydd wedi llwyddo i gyfuno gyrfa lwyddiannus fel actor gyda'r byd canu, a gall gyflwyno baled deimladwy neu gan werin draddodiadol gyda'r un effaith a'r gan roc fwyaf pwerus. Mae ei ddwy albym unigol i SAIN, "Dyddiau Di-gymar" a "Dawnsio ar y Dibyn", ymhlith y mwyaf poblogaidd o'u bath yn hanes recordio Cymraeg, a gellir clywed goreuon y ddwy ar “Goreuon Bryn Fon” (SAIN SCD 2615).
Traciau ar hap
- DAWNS Y SGUBOR
- CHWALU TAIL
- TATWS CYNNAR
- CWM YR AUR
- REBAL WICEND
- CEIDWAD Y GOLEUDY
- DIWEDD Y GAN
- YR UN HEN GWESTIYNAU
- COEDWIG AR DAN
- LAWR I'R NIWL



