Sain Records

BRYN TERFEL

Bywgraffiad

BRYN TERFEL Mae Bryn Terfel, y bas-bariton byd enwog, yn enedigol o Bant-glas, rhwng Caernarfon a Phorthmadog, yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle, ac yn byw gyda'i wraig a'u tri mab yn y Bontnewydd. Astudiodd yn y Guildhall School of Music and Drama, gydag Arthur Reckless a Rudolf Piernay, ac enillodd sawl gwobr yn gynnar yn ei yrfa: • 1988 Ysgoloriaeth Kathleen Ferrier a Gwobr Lieder, Canwr y Byd, Caerdydd. • 1989 Gwobr y Fedal Aur • 1992 “Young Singer of the Year” ‘Gramophone Magazine’ • 1993 “Newcomer of the Year” yng nghystadleuaeth 1af ‘International Classical Music Awards • Categori llais unigol yn y 'Gramophone Awards' am ei album 'An Die Musik' Enillodd hefyd y “People’s Award” gan wrandawyr Classic FM yn y ‘Gramophone Awards’ am ei recordiad o 'Vagabond' , a ‘Grammy ’ arall am y perfformiad clasurol gorau am ei recordiad o ‘Opera Arias’. Perfformiodd ran Figaro gan Mozart mewn prif Dai Opera gan gynnwys y Met yn Efrog Newydd, La Scala Milan, Vienna Staatsoper, Royal Opera House Covent Garden, the Chatelet Paris, Lyric Opera Chicago ac Opera San Francisco. Mae wedi chwarae rhan Figaro, Leporello a Jochanaan yng ngwyl Salzburg, Dr Miracle a Balstrode yn Vienna, Leporello yn y Chicago Lyric Opera ac yn y Met, Wolfram yn y Met, Masetto, Balstrode ac Jochanaan yn y Royal Opera House, Jachanaan i Bayerische Staatsoper a Scarpla i’r Nertherlands Opera. Ond eu brif gampweithiau oedd eu ddehongliadau o Falstaff a Wotan, perfformiadau sydd wedi sicrhau ei le ymhlith Oriel Anfarwolion y Byd Opera am byth. Mae ei yrfa ar y llwyfan cyngerdd yr un mor llewyrchus, ac mae wedi ymddangos gyda James Levine yn Wythfed Symffoni Mahler, Claudio Abbado yn Ein Deutsches Requiem Brahms, fel unawdydd yn y Proms 1994 a pherfformiadau o Elijah yn y ddau BBC Proms, Gwyl Caeredin a gyda’r New York Philharmonic. Gwnaeth ei ddatganiad proffesiynol cyntaf yn yr Hollywood Bowl yn haf 1998, ac wedi hynny mae wedi gwneud datganiadau yn La Scala, Milan, Florence, Berlin, Munich, Vienna, Llundain, Caeredin, Istanbul, Efrog Newydd, a mannau amrywiol trwy UDA a Chanada. Ond er ei fod ymhlith yr ychydig gantorion a all lenwi unrhyw theatr yn y byd, mae'n dal i berfformio'n rheolaidd yng Nghymru, ac yn dal i wneud recordiau i SAIN, ei label gyntaf. Ei CD fwyaf llwyddiannus i SAIN yw 'Benedictus', casgliad o ddeuawdau gyda'i gyfaill Rhys Meirion, a'i CD ddiweddaraf yw 'Anfonaf Angel', er budd un o'i aml elusennau, yr Ambiwlans Awyr.

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords