CRASDANT
Bywgraffiad
CRASDANT yw band offerynnol mwyaf blaenllaw Cymru. Daeth i fodolaeth wedi i bedwar offerynnwr ddod ynghyd er parch at dalentau ei gilydd i greu canon offerynnol Gymreig fyddai’n gallu sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’i pherthnasau Celtaidd. Robin Huw Bowen yw perfformiwr enwocaf Cymru ar y delyn-deires. Ers sawl blwyddyn bellach, bu’n teithio’r byd fel llysgennad llawn-amser dros gerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Daeth Stephen Rees i’r amlwg yn gyntaf yn ei arddegau, fel aelod o’r grwp Ar Log, cyn cychwyn ar yrfa academaidd yn darlithio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Daw Andy McLauchlin yn wreiddiol o Hemel Hemstead, ond bu’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd cerddorol gogledd Cymru ers rhai blynyddoedd, yn chwarae amryw o offerynnau mewn grwpiau gwerin a bandiau dawns. Ynghyd â Robin a Stephen, roedd Andy yn un o aelodau gwreiddiol Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru sy’n ddyfal hybu diddordeb a rhagoriaeth yn y maes, ac sydd bellach wedi esgor ar gerddorfa werin ‘Y Glerorfa’. Huw Williams yw prif ddehonglwr y traddodiad stepio (neu glocsio) yng Nghymru, ac ef yw awdur yr unig lyfr sydd wedi ei gyhoeddi ar y pwnc. Mae hefyd yn adnabyddus fel canwr a chyfansoddwr caneuon ac aelod o’r ddeuawd werin Huw a Tony Williams, ac fel rheolwr y grwp ifanc Calan. Am wybodaeth bellach: http://www.crasdant.com
Traciau ar hap
- MYMPWY LLWYD/Y FASGED WYAU/PIBDDAWNS SIR GAR
- GLAN MEDDWDOD MWYN
- Y CRWTYN LLWYD
- PIBDDAWNS Y MWNCI/Y DYRNWR
- PENMAEN-MAWR
- DAWNS HUW (RACHEL DAFYDD IFAN/CWRW DA/PIBDDAWNS OWEN HUW)
- TEBOT PULTAGUE
- TROS YR ABER/LLANYDWNDWR
- Y DERYN PUR/CHWI FECHGYN GLAN FFRI/TAFLIAD CARREG
- GWYR PEN-DREF/CWRW MELYN/HOFFEDD AP HYWEL



