Sain Records

DAVID LLOYD

Bywgraffiad

David Lloyd (1912 – 1969) Mae perthynas arbennig iawn rhwng y werin Gymreig â’i thenoriaid, ac o blith y rheini, David Lloyd o bosib yw’r ffefryn mwyaf. Fe’i ganwyd yn Nhrelogan, Sir y Fflint yn 1912, a bu’n brentis saer wedi gadael ysgol, ond denodd ei lais tenor sylw sawl beirniad eisteddfodol, ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gerdd y Guildhall yn Llundain pan oedd yn 21 oed, gyda chefnogaeth lleol gref. Gadawodd y Guildhall yn 1938 fel myfyriwr gorau ei flwyddyn, ac ni fu’n hir cyn gwneud argraff yn nhai opera Glyndebourne a Sadler’s Wells, mewn gwyliau cerdd yn Nenmarc a Gwlad Belg, ac ennill galwad i ddirprwyo yn lle neb llai na Jussi Björling yn Sweden. Ond torrwyd ar draws ei yrfa, ac yntau a gwahoddiadau i La Scala a’r Met yn Efrog Newydd yn ei boced, gan y rhyfel, ac ymunodd â’r Gwarchodlu Cymreig yn Awst 1940. Treuliodd bum mlynedd mewn lifrai, ac os bu hynny yn ddiwedd ar ei yrfa operatig, bu’n fodd i’w sefydlu fel hoff ganwr y llwyfan cyngerdd, yn arbennig felly yng Nghymru. Cafodd y rhyfel ddylanwad ar yrfa David Lloyd mewn dwy ffordd – trwy roi terfyn ar ei deithiau tramor i dai opera’r byd, a thrwy ei wahardd rhag recordio yn ei famiaith, gan fod unrhyw iaith ond y Saesneg yn cael ei hystyried fel bygythiad i ddiogelwch y deyrnas ar adeg o ryfel. Bu’n recordio’n gyson rhwng Mawrth 1940 a Mawrth 1947, gan amlaf yn stiwdio EMI yn Abbey Road, ac hefyd mewn lleoliadau eraill yn Llundain, megis Neuadd y Kingsway. Ei brif gyfeilydd oedd yr enwog Gerald Moore, ond clywir yma hefyd recordiadau i gyfeiliant amrywiaeth o gerddorfeydd, a Thriawd lleisiol a Seindorf y Gwarchodlu Cymreig. Nid yw’n bosib bod yn gyfangwbl sicr a yw’r holl draciau a recordiodd David Lloyd yn y cyfnod hwn wedi goroesi, gan fod llawer ohonyn nhw heb weld golau ddydd ar record o gwbwl oherwydd toriadau adeg rhyfel, ac y mae rhai o’r traciau a glywir yma wedi eu cymryd oddi ar “test pressings” yn hytrach na recordiau masnachol. Clywir yma un trac a wnaeth gyda Joan Hammond yn Neuadd y Dref, Birmingham yn Chwefror 1941, ac y mae’n debygol iawn fod gweddill y traciau a recordiwyd y diwrnod hwnnw wedi eu colli am byth. Ond y mae pob trac sydd wedi goroesi wedi ei gynnwys yn y casgliad hwn, o’r recordiad cyntaf un o The Faerie Song a wnaed ym mis Mawrth 1940. Wedi saith mlynedd o recordio yn Saesneg yn unig, mae’r ddau drac cyntaf sydd wedi goroesi yn Gymraeg wedi eu recordio yn stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd ar Fawrth 25ain 1947, sy’n cynnwys ei ddehongliad enwog o Bugail Aberdyfi. Yna daw’r sesiwn a’i anfarwolodd yng ngolwg ei gynulleidfa Gymraeg, o stiwdios Decca ddiwedd Hydref 1948, gyda Meirion Williams yn cyfeilio iddo ar y piano; dyma’r diwrnod y recordiodd Sul y Blodau, Lausanne, Yr hen gerddor, Arafa don, Hyder ac Elen fwyn. Cafodd David Lloyd ddamwain ddifrifol wrth recordio rhaglen i’r BBC ym Mehefin 1954, a thorrodd asgwrn ei gefn. Bu yn orweiddiog am rai blynyddoedd, ond fe ddychwelodd i’r llwyfan, fel canwr ac fel beirniad, a gwnaeth amryw o recordiau EP. Ar y casgliad hwn, clywir y goreuon o’r traciau a recordiodd yn y cyfnod yma, sef dau recordiad yn 1960 i gyfeiliant Cerddorfa Gymreig y BBC, dau i Qualiton yn 1960 i gyfeiliant J.Morgan Nicholas, a thri trac i gwmni Delysé yn 1962, gyda Cyril Anthony yn cyfeilio ar yr organ. Pan fu farw David Lloyd yn 1969, ac yntau’n ddim ond 57 mlwydd oed, collodd Cymru un o’i hoff artistiaid, gŵr y bu ei fywyd yn gyfuniad rhyfeddol o’r llon a’r lleddf, o lwyddiant ac o drasiedi. Bellach, mae’r elfen honno o drasiedi yn cyfrannu rhywsut at apêl bythol wyrdd y canwr o Sir y Fflint oedd â “deigryn yn ei lais”. Dafydd Iwan, Tachwedd 2008

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords