DOREEN LEWIS
Bywgraffiad
Heb os, Doreen Lewis yw ‘Brenhines y Canu Gwlad Cymraeg’ ac mae wedi bod yn cyfansoddi caneuon ac yn canu ar hyd a lled Cymru a thramor ers dros ddeng mlynedd ar hugain, ac mae ei phoblogrwydd yn dal yn rhyfeddol. Bu’r wraig fferm o Geredigion yn canu ers yn 3 mlwydd oed mewn cyngherddau, yn yr ysgol, yr Urdd a’r Ffermwyr Ifanc, a chystadlu o dro i dro mewn eisteddfodau. Cafodd ei gitâr gyntaf yn anrheg pan yn bymtheg oed gan ei thad, ac o fewn tair wythnos roedd wedi ysgrifennu caneuon ei hun ac yn perfformio mewn cyngherddau. Er mai gyda recordiau Cambrian y recordiodd Doreen ei EP cyntaf, mae wedi recordio bron pob record ers hynny gyda Chwmni Recordiau SAIN. Doreen ei hun fydd yn cyfansoddi bron pob can – eithriadau yn unig ydi caneuon gan bobl eraill. “Mae pobl yn anfon caneuon drwy’r post i mi, ond mae’n well ei fod yn dod o’r tu mewn mas, nag o’r tu fas i mewn!” meddai. “Weithie mi fyddai'n meddwl efalle'i bod yn bryd i mi roi’r gitâr yn y to! Ond, tra bod yr iechyd yn dal a’r galw yno, mi fydda i yn cario mlaen. Ac fel mae’n digwydd, rwy’n mwynhau mwy fel mae’r blynyddoedd yn mynd ymlaen!”
Traciau ar hap
- RWY'N SIWR DY FOD TI
- Y GWR DRWG
- COED GLYN CYNON
- HA' BACH MIHANGEL
- DY OLEUNI DI
- CYMRU, TI YW NGWYNFYD
- MATER BACH O 'NGALON I
- SGIDIAU GWAITH
- Y GWELY PLU
- ADERYN MEWN LLAW



