Sain Records

ENDAF EMLYN

Bywgraffiad

ENDAF EMLYN Brodor o Bwllheli, roedd ei ddawn gerddorol yn amlwg yn gynnar a bu’n chwarae’r ffidil yng Ngherddorfa Ieuenctid Cymru yn ei arddegau. Dechreuodd ar ei yrfa fel cyflwynydd rhai o’r rhaglenni teledu pop cyntaf yn y Gymraeg, a bu’n gweithio tu ôl i’r llenni fel rheolwr llawr mewn stiwdios teledu. Yn ddiweddarach, ef oedd cynhyrchydd rhaglen ‘Sgrech’, a roddodd lwyfan i fandiau Cymraeg newydd ddiwedd y 70au. Rhyddhawyd ei albwm gyntaf ‘Hiraeth’ yn 1974, albwm a gyfunai ddehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws. Roedd rhai o’r technegau a ddefnyddiodd i greu swn arbennig, megis aml-dracio ei lais, a’r ffaith iddo recordio rhai traciau yn ei ystafell ffrynt, yn arwydd o artist oedd â syniadau a thrywydd artistig ei hun i’w ddilyn. Ymestynnir ar egin-themâu ‘Hiraeth’ yn ei ail albwm ‘Salem’, albwm gysyniad sy’n portreadu hanes y cymeriadau yn llun enwog Curnow Vosper. Rhoddodd hyn rwydd hynt i ddychymyg Endaf grwydro yn fyfyriol am fywydau pobl fel Siân Ty’n y Fawnog a Robat o Gae’r Meddyg mewn cyfres o ganeuon swynol, ac er mai talu teyrnged i dreftadaeth grefyddol Cymru wledig a wna, nid oedd yn syllu’n ôl yn hiraethus ar y gorffennol. Roedd rhaid parchu’r gorffennol a lledu gorwelion i symud y diwylliant ymlaen. Roedd ei drydydd albwm, ‘Syrffio mewn Cariad’ (1976) yn gwireddu addewid yr awdur yn ‘Salem’ i deithio’r byd, ac roedd y caneuon yn dapestri cyfoethog o’i anturiaethau dychmygol - cyrhaeddodd glannau Santiago, ac ymlaen i ladrata ym manciau’r Andes, smocio opiwm yn Shanghai, a chael ei longddryllio ym Môr y De! Roedd y dirwedd gerddorol wedi newid yn sylweddol hefyd, ac roedd llawer mwy o ddefnydd o synthesisers ac effeithiau stiwdio eraill i ychwanegu naws a blas i’r cefndir egsotig. Gellid dweud bod y ffync yn ei waed erbyn hynny, a gadawodd ei yrfa unigol o’r neilltu am sbel, a bu’n aelod o’r ‘siwpyr-grwp’ byrhoedlog Injaroc a oedd yn cynnwys rhai o gyn-aelodau Edward H Dafis, ac a ryddhaodd un albwm, ‘Halen y Ddaear’ (1977) a’r grwp ‘Jîp’. Tyfodd hadau'r cyd-chwarae grymus a’r arbrofi pellach mewn arddulliau newydd yn y grwpiau hyn i’w llawn dwf yn ei albwm unigol olaf yn y cyfnod hwn, ei gampwaith ‘Dawnsionara’ (1981). Dyma glasur o’i chorun i’w sawdl-o’r riff cyffrous cyntaf ar ‘Paranoia’, i ddychan ‘Nol i’r Fro’ a ‘Saff yn y Fro’ hyd at anterth y côr o leisiau Beach Boys-aidd ar ddiweddglo ‘Rola’. Dangosai trefniant a chymhlethdod jazz-ffync aml-haenog y caneuon a chwarae’r band feistrolaeth ac aeddfedrwydd anghyffredin mewn roc Cymraeg ar y pryd. Er hynny, nid oedd croeso eang gan gynulleidfaoedd Cymru i’w weledigaeth gerddorol. Ar ôl hudoliaeth delynegol a thir cyfarwydd ‘Hiraeth’ a ‘Salem’, roedd cymhlethdod ac ehangder estron ‘Syrffio mewn Cariad’ a ‘Dawnsionara’ yn ormod i rai a hoffai eu pleserau’n fwy syml ac uniongyrchol. Perfformiwr byw swil ydoedd ar y gorau hefyd, a thawelodd gyrfa gerddorol Endaf Emlyn gyda’r albwm honno, ac ni chyhoeddodd albwm arall tan 'Deuwedd' yn 2009. Bellach, mae’n fwy adnabyddus fel cyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn ‘Un Nos Ola Leuad’, ‘Storom Awst’ a ‘Gadael Lenin’. Daeth i sylw cynulleidfa newydd sbon yn sgìl rhyddhau'r casgliad cyflawn o’i albymau, ‘Dilyn y Graen’, (2003), a chafwyd cyfle i ail-fantoli ac ail-werthfawrogi ei gyfraniad. Bellach, cydnabyddir ei le yn rheng flaen arloeswyr pennaf y sin roc Gymraeg.

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords