ESTELLA
Bywgraffiad
Yn llechu ymhlith y mynyddoedd llechi ynghanol pentref Tanygrisiau mae Estella wedi bod yn brysur yn ysgrifennu a chyfansoddi caneuon ers blynyddoedd bellach, ac wedi perfformio yn rhai o brif wyliau cerddorol Cymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Sesiwn Fawr Dolgellau a Gwyl y Faenol. Ffurfiwyd Estella yn hwyr yn y 90au tra roeddynt yn fyfyrwyr yng Ngholeg Meirion Dwyfor. Cyfansoddodd Lauren (prif leisydd) gan fel rhan o’i gwaith cwrs ac fe gafodd gymorth Kaz (ei brawd) ar y gitâr, a’i ffrind Phil ar y drymiau i berfformio set. Cafwyd ymateb calonogol iawn i’r set, ac yn sgil hynny fe aed ati i ffurfio band, a dyna pryd yr ymunodd Robbie a nhw ar y gitâr fas, Asa (brawd Kaz a Lauren) fel gitarydd arall a Hann ab Ionas a Siaron James - y ddau ar offerynnau taro ac fel peirianwyr sain. Wrth feddwl am yr enw Estella doedd gan ‘ru’n ohonynt y syniad lleiaf mai’r enw Sbaeneg ar bentref Lizarra yng Ngwlad y Basg oedd Estella! Hann a Siaron ddaeth ar draws hyn wrth deithio gyda Bob Delyn a’r Ebillion, ac fe addawodd y byddant yn gwneud pob ymdrech i fynd ag Estella yno ar daith - fe aethant ac fe wnaed nifer fawr iawn o ffrindiau a chysylltiadau yno. Mae Estella wedi bod yn teithio gogledd a chanolbarth Cymru gyda Saioa ac Ana (deuawd o Wlad y Basg) a hefyd Dom Duff o Lydaw.
Traciau ar hap
- INTRO
- MAENTWROG
- HOME SWEET HOME
- EPILOGUE
- I HAD A DREAM
- TEARDROPS AND CANDLE WAX
- SOMETHING TO SMILE ABOUT
- DIM OND CYSGODION
- STYLE GRACE AND BEAUTY
- LLWYBR



