Sain Records

GERAINT LOVGREEN

Bywgraffiad

GERAINT LÖVGREEN Mae Geraint Lovgreen yn wahanol, ac ar ei ben ei hun. Mae'n fardd ac yn gerddor i flaenau'i fysedd. Yn grafog a hwyliog wrth ddryllio'r delwau cyhoeddus, ac wrth dynnu gwynt o hwyliau'r pwysigyn, gall gyfansoddi'r gan serch fwyaf cynnil a theimladwy. Mae’n un o gantorion-gyfansoddwyr mwyaf toreithiog Cymru, a gall gyfeilio iddo’i hun ar yr allweddellau neu’r gitar. Ar gornel stryd yn canu ar ei ben ei hun mewn rali Cymdeithas yr Iaith, neu mewn protest yn erbyn rhyfel Irac, neu'n codi'r to gyda'i fand llawn, a'r sacsoffonau'n sgrechian, mae Geraint Lovgreen yn ei elfen, ac yn dal i fynd pan fydd pawb arall yn rhoi eu traed ar y pentan. Wedi i bob ffasiwn fynd heibio, bydd cerddoriaeth a chaneuon Geraint Lovgreen yn dal i atseinio....

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords