Sain Records

HERGEST

Bywgraffiad

HERGEST Cael eu hunain yn yr un lle ar yr un pryd y gwnaethon nhw – Gwersyll yr Urdd Glan-llyn – yn ystod haf 1971, a’r pedwar gwreiddiol oedd Elgan Ffylip o Aberystwyth, Geraint Davies o Abertawe, Derec Brown o Gaerfyrddin a Delwyn (Sion) Davies o Aberdar. Roedd eu diddordeb mewn cerddoriaeth yn gyffredin, a’r grwp Crosby, Stills, Nash & Young yn arwyr i’r pedwar, a daeth awydd i greu grwp, er eu bod ar chwâl yn ddaearyddol, a sawl un mewn grwpiau eraill ( Gwenwyn, Galwad y Mynydd a Madog ).Dechreuodd Elgan a Geraint ganu gyda’r gitarydd Russ Morris yn Aberystwyth dan yr enw Hergest (ar ôl ‘Llyfr Coch Hergest’), a phan ddaeth y pedwar at ei gilydd, yr enw hwnnw a lynodd. Yn Chwefror 1972, daeth Elgan, Geraint a Derec at ei gilydd i recordio tâp demo i gwmni Sain. Ymunodd Charli Britton a John Griffiths ar gyfer sesiwn recordio’r EP yn Stiwdio Rockfield, Trefynwy. Dilynodd nifer o berfformiadau teledu a llwyfan, ac un o uchafbwyntiau haf 1973 oedd cyngerdd Tafodau Tan a recordiwyd ar gyfer record hir. Yn Hydref 1973, symudodd Geraint a Delwyn i’r Borth ger Aberystwyth, i fflat ‘Glanceri’ a fyddai’n gartref i’r band am y blynyddoedd nesaf ac aeth Derec i’r coleg Normal ym Mangor; erbyn diwedd y flwyddyn, roedd Derec wedi gadael y grwp a ffurfio Cwrwgl Sam. Penderfynwyd cario mlaen fel triawd, ac fel triawd y recordiwyd ail EP’r grwp yn Rockfield – Aros Pryd – gydag un gân yr un gan y tri, ac un ar y cyd. Eto, roedd John a Charli’n gerddorion cefndir a chwaraeodd Derec ac Arfon Wyn (gynt o’r Atgyfodiad) ar drac yr un. Yn ystod haf 1974, ymunodd Hergest gyda Sidan, Ac Eraill, Heather a Cleif Harpwood i berfformio ‘Nia Ben Aur’ yn Eisteddfod Caerfyrddin.Recordiwyd ‘Glanceri’, record hir gyntaf Hergest yn Stiwdio Gwernafalau, gyda chymorth John a Charli, Geraint Griffiths ac Arfon Wyn. Fel triawd y buont yn perfformio nes i Derec ail-ymuno yn niwedd 1975. Recordiwyd yr ail LP – a’r orau o bosib - ‘Ffrindiau Bore Oes’ yn ystod haf crasboeth 76. Roedd awydd i ychwanegu bâs a drymiau’n barhaol, a gan fod Charli a John gyda Injaroc, denwyd Rhys Dyrfal Ifans (bâs a llais) a Gareth Thomas (drymiau a llais) at y pedwar, a recordiwyd ‘Hirddydd Haf’ yn 77, a chafwyd perfformiad byw i’w gofio yn Wrecsam (CRANI: Cae Ras Ar Nos Iau a drefnwyd gan Gymdeithas Tai Gwynedd).Erbyn diwedd 78, roedd hi’n amlwg fod y clymau’n dechrau llacio, a recordiwyd eu halbym olaf yng Ngwernafalau gyda’r teitl awgrymog ‘Amser Cau’, cyn cyhoeddi y bydden nhw’n perfformio am y tro olaf yn Ionawr 1979. Bu sawl aduniad ers hynny, yn fwyaf nodedig ar gyfer noson a deledwyd o grwpiau’r 70au ym Mhafilin Corwen yn nechrau’r 90au, a pherfformiad yng Ngwyl y Faenol ddegawd yn ddiweddarach.Bydd casgliad cynhwysfawr o’u caneuon gorau yn cael ei gyhoeddi ar CD ddwbl yn 2010.

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords