HOGIA LLANDEGAI
Bywgraffiad
HOGIA LLANDEGAI Roedd Hogia Llandegai ymhlith arloeswyr y canu ysgafn Cymraeg cyfoes. Wedi cyfnod euraidd y Noson Lawen a Thriawd y Coleg, bu bwlch am rai blynyddoedd nes i bartion megis Parti Sgiffl Llandegai ddechrau diddanu cynulleidfaoedd y 50au. O’r Parti Sgiffl hwnnw y tyfodd Hogia Llandegai – Nev (Neville Huws, gitar a llais a chyflwynydd), Ron (Ronald Wyn Williams, prif leisydd), Now (Owen Glyn Jones, organ geg a llais), a Roy (Roy Astley, gitar a llais). Cawsant yrfa gyda’r hiraf ym maes adloniant Cymraeg, yn rhychwantu pum degawd, ac roedd ganddynt ddilynwyr selog ym mhob cwr o Gymru a thros y ffin. Eu cyfrinach oedd cyfuniad o hiwmor a chanu bywiog, geiriau cartrefol a chymeriadau ar lwyfan oedd yn llwyddo bob tro i ddenu calon cynulleidfa. Recordiwyd eu EP gyntaf i Welsh Teldisc yn 1966, a recordiwyd hefyd i gwmni Cambrian; casglwyd eu goreuon ynghyd ar un CD gan Sain yn 1992, a’r Goreuon Cynnar ar CD ddwbl yn 2006, union ddeugain mlynedd wedi’r recordiad cyntaf, er cof am y ddau aelod a fu farw, Ron a Now. Mae Nev wedi croniclo hanes difyr yr Hogia mewn llyfr.
Traciau ar hap
- ANGHOFIO'R ADDUNED
- PAWB YN CHWARAE GITAR
- MYND I'R FAN A'R FAN
- DAL I GANU, DAL I FYND
- POB NOS A DYDD
- LLWYN ONN
- TREN BACH YR WYDDFA
- METHIWSALA JOS
- TRA BO'R LLOER
- ER COF AM FUWCH O'R ENW MOLLY



