IRIS WILLIAMS
Bywgraffiad
Aeth nifer o flynyddoedd heibio ers i’r ferch ifanc o Donyrefail recordio ar label Cambrian. Pan beidiodd y cwmni hwnnw, prynodd SAIN yr holl dapiau, gan gynnwys caneuon cynnar Iris Williams. Yn ddiweddar, efo’r offer technolegol digidol, gwellwyd safon yr hen dapiau, a chyhoeddwyd Cryno-ddisg newydd Iris Williams. Erbyn hyn, mae Iris yn byw yn Efrog Newydd ac mae'n dal i berfformio led-led y byd ac ar y QE2. Mae’n parhau i ddod adre i Gymru i berfformio, ac yn falch o’i Chymreictod a’r ffaith ei bod yn cynnwys caneuon Cymraeg ar lwyfannau cabaret America.
Traciau ar hap
- GWLAD Y RASTA GWYN
- MI FUM YN CARU
- ANODD I'W WNEUD YW DWEUD FFARWEL
- CHRISTMAS SPIRITUAL
- TRA BYDDO DWR
- SOMETIMES I FEEL
- THE VIRGIN MARY
- ALL MY TRIALS
- POVERTY (O DEUED BOB CRISTION)
- PERERIN WYF



