Sain Records

JEREMY HUW WILLIAMS

Bywgraffiad

Ganwyd Jeremy yng Nghaerdydd ac astudiodd yng Ngholeg St.Ioan, Caergrawnt, Stiwdio’r Opera Cenedlaethol ac efo April Cantelo. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf hefo Opera Cenedlaethol Cymru fel Guglielmo (Cosi fan tutte). Erbyn hyn, mae wedi ymddangos mewn dros ddeugain o ddarnau operatig, a hynny mewn lleoliadau ar hyd a lled y byd, gan gynnwys Gogledd a De America, Awstralia, Hong Kong a’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop. Yn ddiweddar, cymerodd ran fel Escamillo (Carmen) a Germont (La Traviata) ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, yna Oliver (Capriccio), Papageno (Die Zauberflote), George (Of Mice and Men gan Floyd), a phrif ran Karetnikov yn Till Eulenspiegel efo L’Opera de Nantes, rhan Tarqinius (The Rape of Lucretia) a Choregos (Punch and Judy) hefo Theatr Cerdd Cymru a Teddy (The Silver Tassie) i gwmni Opera Iwerddon a Ned Keene (Peter Grimes) efo’r CBSO. Dros y blynyddoedd, perfformiodd yn Neuadd Wigmore a Purcell Room ac mewn gwyliau cerddorol niferus. Bu’n cynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, ac mae bellach yn un o gantorion proffesiynol prysuraf ein gwlad. Ymddangosodd hefo Opera Cenedlaethol Cymru'r BBC yn ‘King Priam’ gan Tippett yn y Royal Festival Hall. Bu’n canu gyda Chwmni Opera Cymru, L’Opera de Nantes, Music Theatre Wales, teledu’r BBC a’r English Bach Festival yn Sadler’s Wells. Bu hefyd yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC yn y Royal Festival Hall, y CBSO yn y Symphony Hall, a’r Philharmania yn Neuadd Dewi Sant. Yn 1999/2000, ymddangosodd mewn pedwar opera gwahanol i L’Opera de Nantes, ac un arall ym Mharis, yn ogystal â chreu dau ran o’r newydd mewn gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig, Emrys yn Tower gan Alun Hoddinot, a’r Brenin Arthur yn Culhwch ac Olwen gan Geraint Lewis. Arbenigodd Jeremy yn y gwaith o gyflwyno gweithiau newydd, llawer ohonynt wedi eu cyfansoddi ar ei gyfer. Adewyrchir hyn yn eu recordiau i SAIN, sy'n cynnwys casgliad o ganeuon gan Hoddinott, ac un arall o ganeuon Mansel Thomas, ac un o weithiau gan gyfansoddwyr megis William Mathias, John Tavener, Mart Butler, John Metcalf, Julian Phillips, Edward Dudley Hughes a Huw Watkins.

Traciau ar hap

  1. WE ARE BORN AS IF THE BLINDING MOMENT OF A LIGHTNING FLASH
  2. A CHURCH ROMANCE
  3. THE INVISIBLE ATOMS OF THE AIR
  4. YR WYLAN
  5. Y FOELAS (CANEUON Y GERDDI)
  6. FFARWEL FO I LANGYFELACH LON
  7. MADRIGAL
  8. BLODAU'R GRUG
  9. FFRWD FACH LOYW
  10. THERE IS A CITY IN THE SEA

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords