LLEUWEN STEFFAN
Bywgraffiad
Mae Lleuwen Steffan wedi tyfu i fod yn un o artistiaid creadigol mwyaf diddorol a blaengar Cymru, a bellach yn un sydd a gwreiddiau hefyd yn naear a cherddoriaeth Llydaw. Wedi dod i amlygrwydd i ddechrau fel aelod o'r grwp jas Acoustique, gwnaeth ei CD unigol "Duw a wyr", gyda'i ymdriniaeth dwys o fyd yr emynau, argraff fawr. Ac wedi symud i fyw am ran o'r flwyddyn i Lydaw, a thrwytho ei hun yn iaith a cherddoriaeth werin y wlad honno, bu'n cydweithio gyda'r gantores Norwen Korbel a'r basydd arbrofol Vincent Guerin, a ffrwyth y cydweithio hwnnw yw ei halbym "Tan". Cafodd Lleuwen fagwraeth yn y pethe, ac yn arbennig felly byd geiriau a cherddoriaeth, a bu'n canu'n ifanc ar rai o recordiadau ei thad, y bardd-ganwr Steve Eaves, cyn datblygu ei llais ei hun. Mae'n barod i gydnabod y gefnogaeth a'r anogaeth a gafodd gan ei thad a'i mam i ddatblygu ei hoffter o gerddoraieth, a bu ei chyfnod yn Ysgol Glanaethwy hefyd yn gymorth mawr iddi yn hyn o beth. Ond bellach, mae Lleuwen wedi datblygu ei llais a'i harddull arbennig ei hun, ac yn awyddus i ehangu ei gorwelion creadigol fwyfwy eto.
Traciau ar hap
- LILI WEN FACH
- BRYNIAU CASIA
- CHWALFA
- MIL HARDDACH
- HWIANGERDD MAIR
- Y DARLUN
- BORE SADWRN
- DURROW
- DAEAR A HAUL
- RHOSYN SARON (WELE'N SEFYLL RHWNG Y MYRTWYDD)



