LOUISE JONES
Bywgraffiad
Yn dilyn cymeradwyaeth wresog i’w début hynod yn Llundain 1991, rhyddhaodd Louise Jones record lwyddiannus gyda Sain, sydd yn cael ei chwarae yn rheolaidd ar y radio ym Mhrydain ar Classic FM, ac yn Ewrop. Dilynwyd hon gan un arall, a chyfunwyd goreuon y ddwy CD ar "Classic Violin Favourites". Derbyniodd wobrwyon ac ysgoloriaethau i Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, ble astudiodd o dan Yossi Zivoni, ac yn America ym Mhrifysgolion Michigan ac Northern Illinois ble bu’n astudio gyda Camilla Wicks a Shmuel Ashkenasi, gan ennill gradd Anrhydeddus a thystysgrif Perfformiad. Wedi iddi ddychwelyd i Brydain yn 1990, mae wedi derbyn gwobr Goffa Grace Williams.
Traciau ar hap
- LIEBESLEID
- PRAELUDIUM AND ALLEGRO
- LISA LAN
- YR ALARCH
- PAGUERA
- SCHON ROSMARIN
- ALLEGRETTO (VIOLIN SONATA IN G MAJOR)
- NOS GALAN
- APRES UN REVE
- MELODIE



