LUCY KELLY
Bywgraffiad
Mae Lucy yn meddu ar bopeth - llais, talent gerddorol a phersonoliaeth heulog braf. Daw ei naturioldeb drosodd yn ei chanu, ac y mae ei albym gyntaf "Y llais o Baradwys" yn cyhoeddi fod seren newydd wedi dod i ffurfafen Cymru, ac y mae albym newydd ar y gweill sy'n dangos fel y mae ei thalent yn dal i flodeuo.



