MAFFIA MR HUWS
Bywgraffiad
Bu Bethesda yn ganolbwynt bywiog i'r sin roc Gymraeg am flynyddoedd, a chyrhaeddodd hynny uchafbwynt yn yr 1980au gyda dyfodiad Maffia Mr. Huws, y ddau frawd Sion a Gwyn Jones, y canwr Hefin Huws, a Deiniol Huws. Cymerwyd lle Hefin yn ddiweddarach gan Neil Williams. Buont yn cydweithio llawer gyda'r diweddar Les Morrison, ac yn fawr eu dylanwad ar Gruff Rhys, y Super Furries. Bu Gwyn a Sion yn aelodau o Anhrefn a nifer o fandiau eraill, a Gwyn sy'n rhedeg Stiwdio Bos, Llanerfyl gyda't gymar Sian James. Cyhoeddwyd eu traciau gorau ar 'Croniclau'r Bwthyn' (SAIN SCD 2553).
Traciau ar hap
- FFORDD OSGOI DRWY'R COED
- NID DIWEDD Y GAN
- MYND I FFWRDD
- YR ADDEWID
- DAN NI'M YN RHAN
- HYSBYSEBION
- CIGFRAN
- HYDER HYLL
- RHYWLE HENO
- HALEN AR Y BRIW