MARY HOPKIN
Bywgraffiad
Yn niwedd y chwedegau daeth llais merch ifanc o Bontardawe i gyfareddu’r Gymru Gymraeg. O’i hymddangosiad cyntaf ar deledu’r BBC, doedd dim amheuaeth ynglyn â’i dawn i droi can gyfarwydd yn brofiad arbennig. Llais clir fel y grisial, arddull cwbl gartrefol a wyneb fel angel! Does ryfedd yn y byd na fu Mary Hopkin yn hir cyn denu sylw ymhell y tu hwnt i Gymru, ac iddi gael ei hun yng nghwmni neb llai na’r ‘Beatles’ yn stiwdio Abbey Road. Cyn pen dim roedd ei recordiad enwog ‘Those were the days’ ar frig y siartiau, ac i’w glywed ar draws y byd. Ond gallwn ymfalchïo yn y ffaith mai Cymraes yw Mary, ac yma yng Nghymru y datblygodd ei chrefft fel cantores, ac yma yng Nghymru y recordiodd ei recordiau cyntaf, a hynny yn Gymraeg!
Traciau ar hap
- RHYWBETH SYML
- PLAISIR D'AMOUR
- TYRD YN OL
- TRO, TRO, TRO
- DRAW DROS Y MOROEDD
- Y BLODYN GWYN
- GRWANDEWCH AR Y MOROEDD
- ADERYN LLWYD
- PLESERAU SERCH
- YN Y BORE



