MEIC STEVENS
Bywgraffiad
MEIC STEVENS Mae Meic Stevens, sy’n endigol o Solfach, Sir Benfro, yn un o ffigyrau canolog y byd canu cyfoes Cymraeg, fel cyfansoddwr, gitarydd a chanwr, a hynny ers pedwar degawd. Er gwaetha'i wendidau fel perfformiwr cyhoeddus – o safbwynt ei agwedd yn hytrach na’i allu - mae'r gynulleidfa yn maddau'r cyfan iddo, ac yn dal i heidio i wrando arno, gan wybod y gall perfformiad gan Meic fod yn brofiad bythgofiadwy, yn waith o athrylith. Mae’n dipyn o enigma, a hynny rhywsut yn ychwanegu at ei apêl, a hwnnw’n apêl i sawl cenhedlaeth. Fel gitarydd a chyfansoddwr a threfnydd cerddorol, gwyr yn union pa fath o effaith y dymuna ei gael wrth recordio, ac fel arlunydd o ran hyfforddiant, mae bob amser yn ofalus gyda delwedd y clawr, - ac yn aml yn eu cynllunio ei hunan. Fel cyfansoddwr geiriau, er mai yn Saesneg y cyfansoddodd lawer o'i gampweithiau a chael eraill i'w cyfieithu, mae hefyd yn cyfansoddi yn Gymraeg, a bron wedi dyfeisio ei reolau gramadeg ei hun, ac yn sicr wedi rhoi inni rai o ganeuon mwyaf cofiadwy ein cyfnod. Mae'n byw ar hyn o bryd yn Vancouver, ond yn bwriadu dychwelyd i Gymru'n rheolaidd i berfformio. Cyhoeddodd recordiau ar amryw o labeli, ond bellach mae’r rhan fwyaf o’i ganeuon i’w clywed ar label SAIN, diolch yn bennaf i’r casgliad “Disgwyl rhywbeth gwell i ddod”, sef casgliad o 57 o’i ganeuon cynnar a gyhoeddwyd fel pecyn 3CD, yn 2002. Bwriedir creu set bocs o'i holl albyms yn y dyfodol agos.
Traciau ar hap
- AR Y MYNYDD
- RHOSYN YR ANIALWCH
- DIC PENDERYN
- SANDOZ YN LOUDON SQUARE
- DISGWYL RHYWBETH GWELL I DDOD
- STARGIRL
- RHYDDID FFUG
- DEWCH AR Y TREN
- WASTOD AR Y TU FAS
- GWELY GWAG



