MONTRE
Bywgraffiad
MONTRE Yn hanu o Drefor wrth droed yr Eifl, mae Glyn a Dennis yn gyfeillion bore oes, ac wedi priodi dwy chwaer! Mae’r ddeuawd yn boblogaidd iawn yn lleol ers blynyddoedd, ac wedi cyhoeddi tair albym ar label SAIN, mae eu poblogrwydd yn lledaenu'n gyflym. Gyda harmoniau swynol a threfniannau arbennig o alawon ‘gwlad’ Gwyddelig, mae ganddyn nhw ganeuon ac arddull sy’n apelio at gynulleidfaoedd canu gwlad ym mhob cwr o Gymru. Maent yn perfformio’n ddwy-ieithog, a’u repertoire wedi ei seilio ar ganeuon Gwyddelig ac Americanaidd, yn ogystal â chaneuon poblogaidd Cymraeg. Mae’r ddeuawd wedi gosod geiriau newydd ar rai caneuon a thrwy hynny roi gwaed newydd i hen ffefrynnau, a’u halbym ddiweddaraf yw “Caru Llyn” (SAIN SCD 2551).
Traciau ar hap
- LOVE'S GONNA LIVE HERE AGAIN
- HIRAETH
- GADAEL CARTREF
- CROESO GARTREF
- PETHAU BACH
- SOMEWHERE BETWEEN
- RWY'N COLLI GWELD
- BEFORE THE NEXT TEARDROP FALLS
- YOU SELDOME COME TO SEE ME ANYMORE
- ADRE'N OL



