Sain Records

NIA JENKINS

Bywgraffiad

Magwyd Nia yn Abertawe, a dysgodd chwarae’r delyn yn ifanc iawn gan berfformio’n gyson yn lleol, ac mewn Eisteddfodau. Cafodd ei derbyn yn aelod o’r Orsedd, ac arwain y telynau yng Ngherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol yn Llundain, cyn treulio dwy flynedd yn canolbwyntio ar y delyn yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Gweithiodd fel telynores yn Llundain am bymtheng mlynedd, yn chwarae mewn cerddorfeydd, cyngherddau a recordio gydag artistiaid enwog megis Bjork, Meat Loaf a Martin McCutcheon. Hi oedd telynores breswyl gwestai Ritz, y Mayfair a’r Hyde Park. Cafodd fwynhad arbennig hefyd yn chwarae mewn sioeau mawr y West End, fel ‘Beauty and the Beast’, ‘The King and I’ ac ‘Oliver!’ Wedi symud yn ôl at ei gwreiddiau yn Abertawe, mae Nia yn codi teulu ac yn athrawes, ond yn dal i fwynhau chwarae’r delyn ar achlysuron arbennig o bob math, ac mae’n aelod o’r grwp gwerin Cromlech.

Traciau ar hap

  1. ON MY OWN
  2. TI A DY DDONIAU
  3. GRATITUDE & MOONRISE
  4. ROMANZA
  5. LA FILLE AUX CHEVEUX DE LIN
  6. AR HYD Y NOS
  7. CADWYN O GANEUON CYMREIG (AR HYD Y NOS/Y DERYN PUR/MYFANWY)
  8. AUTUMN LEAVES
  9. SONG FOR GUY
  10. AR HYD Y NOS

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords