OSIAN ELLIS
Bywgraffiad
OSIAN ELLIS Ganwyd Osian Ellis yn Ffynongroyw yn 1928 i deulu oedd yn hannu o ardal Aberdaron. Bu'n athro'r delyn yn Academi Frenhinol Llundain am 30 mlynedd cyn iddo ymddeol yn 1989 a symud i fyw i Bwllheli. Bu'n chwarae gyda nifer o gerddorfeydd mwyaf enwog y byd, ac ef oedd prif delynor yr LSO am nifer o flynyddoedd, a bu hefyd yn aelod o'r ensemble Melos. Ef yw awdur y gyfrol 'Hanes y Delyn yng Nghymru', ac y mae'n aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd. Cyfansoddodd Benjamin Britten ‘Suite i’r Delyn yn C fwyaf' yn arbennig ar gyfer Osian. Mae yntau’n gyfansoddwr, ac mae ganddo ddarn arbennig i ddwy delyn sef ‘Clymau Cytgerdd’ ar ei CD gyda SAIN, yn ogystal ag enghraifft o ganu Cerdd Dant i'w gyfeiliant ei hun. Dros y blynyddoedd, bu'n athro i nifer o delynorion amlwg, megis Elinor Bennett, ac yn ddi-os mae'n un or rhai a fu'n bennaf gyfrifol am sicrhau'r canfyddiad o'r delyn fel offeryn cenedlaethol Cymru.
Traciau ar hap
- ANDANTE (SONATA YN G LEIAF, OPUS 1 RHIF 10
- GEE CEFFYL BACH (CANEUON PLANT)
- PAN OEDDWN GYNT YN FACHGEN (CANEUON ATGOF (BALED YR HENWR))
- CANU PENILLION
- CANU PENILLION (CLYMAU CYTGERDD I DDWY DELYN)
- GWENNI AETH I FFAIR PWLLHELI (CANEUON PLANT)
- GREDDF GWR (CATRAETH)
- ALLEGRO (SONATA YN G LEIAF, OPUS 1 RHIF 10)
- PAID A DEUD (CANEUON ATGOF)
- ANDANTE ALLEGRO (CONSIERTO I'R DELYN - OPUS 4, RHIF 6)



