Sain Records

PARTI CUT LLOI

Bywgraffiad

Pan symudodd y gantores Sian James yn ol i fyw i'w chynefin yn Llanerfyl, ni fu'n hir heb ffurfio cor o ddynion lleol i ganu caneuon gwerin. Gan eu bod i gyd yn byw yn yr ardal lle mae'r traddodiad plygain yn dal yn fyw ac yn iach, does ryfedd i'r cor ddatblygu arddull debyg eu hunain. Canu cyhyrog, naturiol, yn llawn cynghanedd ac asbri, ac yn ei medru hi yn y cywair dwys hefyd. Roedd Sian James yn ei helfen, a'r Parti Cut Lloi yn fuan yn ffefrynnau mawr ar lwyfan eisteddfod, gwyl a noson lawen.

Traciau ar hap

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords