PLETHYN
Bywgraffiad
Yn eu hanterth rhwng 1978 ac 1995, Plethyn oedd yn bennaf gyfrifol am ddwyn y traddodiad o ganu harmoni yn null y Plygain i ganol prif ffrwd y canu gwerin cyfoes Cymraeg. Am flynyddoedd, nhw oedd yn bennaf gyfrifol am boblogeiddio dwsinau o'n caneuon traddodiadol, yn ogystal a chyflwyno nifer fawr o ganeuon newydd. Brawd a chwaer ydi Roy a Linda, gyda John Gittins wedi ei eni ar fferm gyfagos, ger Meifod ym Maldwyn. Mae traddodiad canu gwerin yr ardal yn fyw iawn o hyd, ac mae’r dylanwad i’w glywed yn glir yn lleisiau ac arddull Plethyn. Pan ddaeth y diweddar Elfed Lewys i'r ardal yn weinidog, cafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth Plethyn, a'u hannog i gyflwyno'r traddodiad gwerin mewn arddull naturiol ac anffurfiol. Mae gan Linda Healy un o’r lleisiau gwerin mwyaf arbennig, ac mae llais tenor Roy a bas John yn ffram berffaith iddi. Maent yn cyfeilio i’w hunain ar y gitâr a’r mandolin, y bib a'r acordeon bach, ac mae’r rhan fwyaf o’u caneuon yn drefniadau o ganeuon traddodiadol, ond hefyd cawsant feirdd fel Myrddin ap Dafydd i gyfansoddi caneuon newydd ar eu cyfer. Ond cred llawer mai prif arbenigrwydd Plethyn yw eu canu di-gyfeiliant gyda blas y plygain yn drwm arno.
Traciau ar hap
- BREUDDWYD GLYNDWR
- TEULU'R TIR
- HOGYN WIL PANT GARREG
- YR HEN FWTHYN
- Y DERYN PUR
- HINION HA'
- ADAR MAN Y MYNYDD
- CYSGA DI FY MHLENTYN TLWS
- YMRYSON CANU
- FFARWEL I BLWY LLANGYWER



