R S THOMAS
Bywgraffiad
Ganwyd R.S.Thomas yng Nghaerdydd, cyn i'w deulu symud i Gaergybi, a dysgodd Gymraeg fel ail iaith pan oedd dros 30 oed. Bu'n offeiriad yn yr eglwys mewn sawl lle yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, a gorffen yn Aberdaron cyn ymddeol yn 1978. Wedi hynny, dechreuodd gymryd rhan mwy amlwg mewn ymgyrchoedd gwleidyddol dros Gymreictod a heddwch, er na fu'n perthyn i unrhyw blaid. Treuliodd ei flynyddoedd olaf ym Mhen Llyn, Llanfrothen a Mon. Fe'i ystyrir yn un o brif feirdd gwledydd Prydain yn yr iaith Saesneg, ond Cymru ac ysbrydolrwydd yw ei brif fater, ac y mae ei sylwadaeth ar y grymoedd sy'n Seisnigeiddio Cymru yn ddeifiol. Disgrifiwyd ef gan Yr Athro M.Wynn Thomas fel Solzhenitsyn Cymru am ei fod yn achosi cymaint o wewyr i gydwybod y Cymry, ac fe'i enwebwyd ar gyfer Gwobr Nobel am Lenyddiaeth yn 1996. Dwy flynedd yn ddiweddarach, recordiodd 145 o'i hoff ddarnau i gwmni Sain. Bu farw ym Medi 2000, a gwasgarwyd ei lwch ger porth eglwys Porthmadog.
Traciau ar hap
- GRADUAL
- WELSH LANDSCAPE
- A WELSH TESTAMENT
- AFTER THE LECTURE
- THE MOON IN LLEYN
- DRAWING BY A CHILD - DIANA BRINTON LEE
- VIA NEGATIVA
- AFON RHIW
- ONCE
- DROWNING



