ROBIN JAMES-JONES
Bywgraffiad
ROBIN JAMES JONES Mae enw Robin James Jones yn gyfarwydd i bawb a wyr am fyd y delyn yng Nghymru. Cafodd ei eni a’i fagu yn Nolwyddelan, a bu’n canu’r delyn er pan oedd yn ddim o beth. Cafodd wersi yn ifanc gan Gwenllïan Dwyryd, Nansi Richards ac Ann Griffiths. Crwydrodd yn helaeth gyda’i delyn, gan dreulio cyfnodau yn Iwerddon a thair blynedd ar ddeg yn New Orleans, lle bu’n canu’r delyn mewn bwyty enwog yn y Chwarter Ffrengig, ac yn trefnu’r adloniant gyda blas Celtaidd cryf iddo. Wedi dychwelyd i Gymru, bu’n arloesi gyda’r gwaith o drefnu adloniant Cymreig traddodiadol ar gyfer ymwelwyr i Gymru. I’r heidiau o Gymry sy’n mentro’n flynyddol i’r Wyl Ban Celtaidd yn Iwerddon, mae chwarae hwyliog a medrus Robin, a’i arddull fyrfyfyr, ar y piano a'r delyn, yn rhan annatod o nosweithiau llawen yr Wyl ers blynyddoedd.
Traciau ar hap
- GREEN LEAVES OF THE SUMMER
- AN ERISKAY LOVE LILT
- SKYE BOAT SONG
- MINSTREL BOY
- AUTUMN LEAVES
- CARRICKFERGUS
- SHENANDOAH
- SINGING FOUNTAIN
- STRANGER ON THE SHORE
- SUMMERTIME



