ROSALIND A MYRDDIN
Bywgraffiad
Daw Myrddin Owen yn wreiddiol o Lanberis, a Rosalind (Lloyd cyn priodi) o Lanbedr-Pont-Steffan, ond ers blynyddoedd bellach maen nhw’n byw ym Mhwllheli. Mae Myrddin a Rosalind yn enwau sydd wedi bod yn rhan o’r byd canu poblogaidd Cymraeg ers y 60au, Myrddin fel aelod o Hogia’r Wyddfa, a Rosalind fel aelod o’r Perlau. Gydag amser, daeth y ddau i’r amlwg fel cantorion unigol hefyd, a’r ddau yn meddu ar leisiau unigryw a deniadol. Wedi priodi, dechreusant ganu fel deuawd, a buan y daeth y cyfuniad o'r ddau lais arbennig yma yn sail i gyfres o recordiau poblogaidd, a chyfresi teledu llwyddiannus. Cawn ail-fyw eu perfformiadau trwy wrando ar gasgliad o'u goreuon fel deuawd ar Gryno-ddisg.
Traciau ar hap
- HEN LWYBR Y MYNYDD
- I BLENTYN
- FERNANDO
- F'ANWYLYD, F'ANWYLYD
- RHO DY LAW
- BREUDDWYD HOFF
- GWLITH AR GALON WAG
- BYW I WELD DY WEN
- AROS AMDANAT TI
- GOLAU'R HARBWR