Sain Records

SHAN COTHI

Bywgraffiad

SHAN COTHI Yn enedigol o Farmers, ger Llanymddyfri, daeth Shan i’r amlwg fel cantores yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, ac yn ddiweddarach fel aelod o’r grwp merched talentog Cwlwm. Am gyfnod, bu’n Bennaeth Cerdd yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion ac yn Ystalyfera, cyn ymddeol yn gynnar i ganolbwyntio ar ganu – ei chariad pennaf. Roedd hynny'n dipyn o fenter ar y pryd, ond dangosodd Shan ei bod yn gallu troi ei llaw at gyflwyno, sgriptio, canu mewn sawl arddull - ac actio. Roedd ei pherfformiad yn un o brif rannau'r ddrama gyfres "Con Passionate" yn brawf o'i dawn ddiamheuol fel actores, ac y mae hefyd yn amlwg fel cyflwynydd cyson ar raglenni S4C. Ond fel cantores y mae hi’n teimlo’i bod hi yn ei helfen, ac y mae’r albym ‘Passione’ yn arddangos ei doniau i’r eithaf. “Dyma brosiect hynod o bersonol,” meddai Shân, am 'Passione', a gynhyrchwyd ar y cyd ganddi hi ac Owen Thomas, “ac mae’n deimlad cyffrous iawn mod i wedi cael y cyfle i recordio casgliad o gerddoriaeth mor gyfoethog gyda chymaint o gydweithwyr dawnus.” Yn gyfeiliant iddi ar y casgliad mae Cerddorfa Siambr Genedlaethol Cymru dan arweiniad John Quirk, yn ogystal ag Only Men Aloud, Serendipity, Myfyr Isaac (gitâr), Richard Roberts (piano), Catrin Finch (telyn) a Laurence Davies (trwmped picolo). Mae’r casgliad yn dangos ystod llais anhygoel Shân wrth ganu opera, clasuron o’r sioeau cerdd a chaneuon traddodiadol, a hynny mewn nifer o ieithoedd: Caro Mio Ben (Giordani), Be Still My Soul a Finlandia (Sibelius), Lisa Lân, Once Upon a Time in the West (Morricone), Les Filles de Cadix (Delibes), Pie Jesu (Fauré), Wishing You Were Somehow Here Again (Lloyd Webber) a Auf Flügeln des Gesanges (Mendelssohn), Let the Bright Seraphim (Handel), Suo Gân (tradd.) a mwy… Yn y broliant ar y clawr, dywed Bryn Terfel: “Cothi yr Eisteddfodwraig; Cothi y berfformwraig sioe gerdd; Cothi y cyflwynydd teledu; Cothi yr actores, ac yn olaf, ond nid yn lleiaf, Cothi yr artist recordio. Pluen arall yn ei chap!” Ychwanega Nick Bailey, Classic FM: “Shân is not only a wonderful singer, but also has a great passion for everything she does, which makes the title of this album particularly apt…”

Traciau ar hap

  1. LISA LAN
  2. CARO MIO BEN
  3. WISHING YOU WERE SOMEHOW HERE AGAIN
  4. CHEMINS DE L'AMOUR
  5. SUO GAN
  6. LES FILLES DE CADIX
  7. ONCE UPON A TIME IN THE WEST
  8. AUF FLUGEN DES GESANGES
  9. LET THE BRIGHT SERAPHIM
  10. BE STILL MY SOUL (FINLANDIA)

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords