Sain Records

TARA BETHAN

Bywgraffiad

O wybod am ei chefndir, doedd hi ddim yn syndod i neb fod Tara Bethan wedi cael ei hun ar y llwyfan. Yn ferch i un o gymeriadau mwyaf lliwgar y llwyfan Cymreig, roedd perfformio yn y gwaed, a daeth Tara i amlygrwydd yn ifanc iawn ar lwyfan eisteddfod a chyngerdd fel cantores a dawnswraig dalentog. Ac erbyn hyn mae’r dalent naturiol hwnnw wedi blodeuo i greu perfformwraig gyflawn; mae’r un asbri i’w weld ac oedd yn amlwg yn ei pherfformiadau cynnar, ond cabolwyd hwnnw erbyn hyn gyda chynildeb a sensitifrwydd y gwir artist; mae’r un pwer yna hefyd, ond wedi ei leddfu i fedru cyflwyno tynerwch yn ogystal ag angerdd.

Traciau ar hap

  1. LLIWIAU
  2. DILYN BREUDDWYD
  3. NORMA JEAN
  4. HYD 'NOED NAWR
  5. DWI'N GADAEL
  6. CARIAD YW'R CLWY'
  7. BRAN I BOB BRAN
  8. CARLOS
  9. RHYWLE DRAW DROS YR ENFYS
  10. DAL Y TREN

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00


Twitter