TECWYN IFAN
Bywgraffiad
Daeth Tecwyn Ifan i amlygrwydd yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Bangor, a'i ganeuon yn llais i fudiad Adfer, ond hefyd yn llais i ddyheadau dyfnaf y Cymry a'u hymrwymiad i'r iaith Gymraeg a'r traddodiad Cristnogol Cymraeg.. Yn bregethwr wrth ei alwedigaeth, bu'n weinidog yn Sir Benfro, ei sir enedigol, am gyfnod cyn gadael i weithio i'r Fenter Iaith leol. Dychwelodd i'r weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr yn Llanddoged, ger Llanrwst. Mae'n parhau i ganu ac i gyfansoddi heddiw. Yn ifanc iawn, roedd ef a'i frawd y cerddor Euros Rhys yn aelodau o Perlau Taf, ond buan y datblygodd ei lais ei hun fel cyfansoddwr a chanwr. Cyhoeddodd gyfres o recordiau hir: Y Dref Wen, Dof yn ol, Goleuni yn yr hwyr, Edrych i'r gorwel, Herio'r oriau du, Stesion Strata a Wybren Las. Yn y flwyddyn 1995, cyhoeddwyd "Goreuon Tecwyn Ifan".
Traciau ar hap
- KARA, KARA
- BRAWDOLIAETH
- HISHTW
- BANDIT YR AWR
- OCHR DRAW I'R MYNYDD
- TUNNU TUA THRE
- Y CURIAD YN FY NHRAED
- MYNYDD MORFIL
- GLAS DY LYGAID
- HEN GYNEFIN



