TIMOTHY EVANS
Bywgraffiad
Pan fydd llais tenor naturiol yn cael ei gyfuno a phersonoliaeth gynnes, mae gennych rywbeth sy’n mynd yn syth at galon y Cymry. Mae’r cyfuniad yn amlwg ddigon yn y canwr rhadlon o Lanbedr Pont Steffan, Timothy Evans. Daeth Timothy i amlygrwydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a Llangollen a bellach mae Timothy yn difyrru cynulleidfaoedd ledled y wlad ar lwyfan y Noson Lawen a’r Cyngerdd, ar deledu, radio a record. Bu ar deithiau canu i Awstralia, Hong Kong ac America dair gwaith. Mae ei ddyddiadur bob amser yn orlawn. Annette Bryn Parri sy’n cyfeilio iddo yn y Gogledd, a dwy gyfeilydd arall yn cyfeilio iddo yn y Canolbarth a'r De. Cafodd gynnig mynd i Golegau Cerdd yn Llundain a Manceinion, a chynnig i ganu'n broffesiynol, ond roedd ei gariad at ei anifeiliaid a’i gynefin yn gryfach na'i uchelgais i wneud bywoliaeth o ganu. Mae’n Bostfeistr yn Llanbed ers dros ugain mlynedd, a bu’n helpu ei rieni yn Swyddfa’r Post yn Silian pan oedd yn blentyn. Mae ganddo dir yn Silian hefyd, ac mae’n magu merlod Shetland, ieir Bantam, ac y mae'n bencampwr defaid du a gwyn Torwen .
Traciau ar hap
- OES MAE 'NA LE
- NID YW'N GYFRINACH
- CAE O YD
- DWEUD FFARWEL MAE YR HAUL
- YR HEN GAPEL BACH
- DIM OND IESU (O FY IESU BENDIGEDIG)
- YR HUDOL AWR
- HUDOL YNYS
- RHOSYN FY MYD
- O GYMRU



