TREBOR EDWARDS
Bywgraffiad
Does dim dwywaith mai Trebor Edwards yw un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd a llwyddiannus a welodd y byd recordiau Cymraeg, gyda gwerthiant ei recordiau ymhell dros 250,000. Mae apêl y tenor-amaethwr o Betws Gwerful Goch ger Corwen yn bellgyrhaeddol gyda rhywbeth yn ei ganu sy’n apelio mewn ffordd sylfaenol iawn at glust a chalon y gynulleidfa. Mae ei ganu yn dod yn agos iawn at syniad delfrydol llawer o bobl o’r hyn yw llais a chanu da. Mae ei naturioldeb yn gwneud i bobl deimlo’n agosach ato, ac mae’n ganwr sy’n apelio at y di-Gymraeg hefyd, gyda dwy o’i recordiau Saesneg “One day at a time” and “Presenting Trebor Edwards” wedi gwerthu’n arbennig o dda. Yn wir, mae Trebor Edwards wedi derbyn sawl disg aur gan SAIN am werthiant ei recordiau, a'i apel yn pahau o hyd.
Traciau ar hap
- CAN Y BUGAIL
- TORIAD GWAWR
- YMLAEN A'R GAN
- YR HANCES FELEN
- BUGAIL ABERDYFI
- CAROL GWR Y LLETY (A WELAIST TI'R DDAU YN DOD GYDA'R HWYR)
- ARGLWYDD IESU DYSG IM GERDDED
- MOR FAWR WYT TI
- I'LL WALK BESIDE YOU
- CYMRU DLOS