Y GLERORFA
Bywgraffiad
Yn Nhachwedd 2006 roedd 'CLERA' - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru - yn dathlu ei 10fed pen-blwydd. Ei phrif waith yn ystod y 10 mlynedd cyntaf oedd trefnu gweithdai i ddysgu alawon Cymreig, a dysgu sut i'w chwarae yn y dull traddodiadol. Ffrwyth y gweithdai hynny oedd y 40 cerddor a ddaeth ynghyd ar gyfer y cyngerdd pen-blwydd yn Galeri Caernarfon. O'r enw 'Clera', awgrymwyd yr enw CLERORFA i'r criw, a glynodd yr enw. Bu'r ymateb i'r cyngerdd cyntaf hwnnw mor frwd fel y bu'n rhaid dal ati, a hanes o gynnydd fu hi ers hynny, yn cyrraedd uchafbwynt yng Ngwyl Geltaidd An Oriant, Llydaw yn haf 2008. Roedd ymateb y cynulleidfaoedd a'r Wasg i berfformiadau'r Glerorfa yn Lorient yn wresog tu hwnt. Pan gynhaliwyd cyngerdd pellach yn Galeri yn Ebrill 2009, cam naturiol oedd i Sain ei recordio, a dyna yw sail y CD gyntaf, gyda'r casgliad o delynau, ffliwtiau, ffidlau, pibau a phibgorn, ambell i hwb gan gitar fas, yn cyfuno gyda lleisiau unigol a chyfun. Rhoi bywyd newydd i hen alawon Cymru, a'u cyflwyno mewn dull syml a di-lol, dyna yw nod y Glerorfa. Ond mae'r Glerorfa hefyd yn cwmpasu traddodiadau Cymreig eraill, yn ganu gwerin, canu penillion a chlocsio, a does dim dwywaith ei bod wedi llwyddo i anadlu bywyd ac asbri newydd i'r byd gwerin yng Nghymru.
Traciau ar hap
- ENCORE: Y DERWYDD
- PIBGAMAU -(MYMPWY LLWYD/NYTH Y GOG/PIBDDAWNS DOWLAIS)
- CARDIS (2 GARDI 3/2 GARDI 2)
- TRENSIWR (WALTS AR DRENSIWR/YR HWCH YN YR HAIDD/CIG AR DRENSIWR/DIC SION DAFYDD/DOPSI MON/CYNTAF DYDD O AWST)
- GWREIDDIAU (GLAN CAMLAD/LLWYN ONN/RHIF WYTH)
- SET JEFF 2 (BREUDDWYD DAFYDD RHYS/MELIN LLYNNON/JIG MABSANT/JIGOLO)
- Y GEINACH LAS (HOBED O HILION/HELA'R GEINACH/Y GOFID GLAS)
- SET JEFF (Y PIBYDD DU/Y LILI)
- YMADAWIAD Y BRENIN
- ALY BRECHDAN (CAN CRWTYN Y GWARTHEG/ALY GROGAN/Y GWNINGEN GYMREIG/RACHEL TY CAM/DIFYRRWCH GWYR DYFI)



