Y PROFIAD
Bywgraffiad
Ers sefydlu yn 1998, mae 'Y Profiad' wedi bod yn brysur yn gigio o gwmpas y Gogledd. Maent wedi ymddangos ar lwyfan Gwyl y Faenol, ar deledu ac ar y radio. Wedi ymadawiad un o'r criw gwreiddiol daeth Nathan Owen yn aelod newydd o'r band. Cerddor ifanc sydd yr un mor ddawnus ar y gitâr ac ydi o ar yr allweddellau, a chyfranna yn helaeth i ddatblygiad y caneuon newydd. Cafodd ei wobrwyo fel Gitarydd Ifanc Gorau Eisteddfod Genedlaethol Môn, a bu’n aelod o grwpiau Blue Voodoo, Y Moniars a Feely Band. Yr aelodau ydi Llion Roberts, prif leisydd; Len Jones, gitâr; Nicky Whittle, llais cefndir; Steve Jones, gitâr fas a llais cefndir; Chris Jones, drymiau a Nathan Owen, gitâr ac allweddellau.
Traciau ar hap
- PAN OEDD Y DDRAIG YN HEDFAN
- GAD I MEWN
- CANU Y GAN
- RHAID I NI WNEUD O'N IAWN
- SEFYLL AR Y SGWAR



