Sain Records

Sain yn Awstralia a Hong Kong

Mae albym John Owen-Jones newydd gael ei ryddhau yn Hong Kong. Trwyddedwyd yr albym gan gwmni Sunrise ac mae nifer o gyfweliadau radio / y wasg ar y gweill. Mae llwyddiant John yn Hong Kong yn dilyn rhyddhau’r albym yn Taiwan a Tseina rai misoedd yn ôl. Hefyd, drwy gyswllt Sain â label enwog ABC Classics, Awstralia, mae nifer o gryno ddisgiau Sain bellach wedi eu trwyddedu a’u rhyddhau ganddynt yn Awstralia a Seland Newydd. Y diweddaraf oedd casgliad arbennig o recordiadau o Wyl Corau Meibion Cymry Llundain yn yr Albert Hall – cyrhaeddodd y casgliad y 10 uchaf y siartiau aml-gyfrannog clasurol Awstralia!


Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00


Twitter