TAITH FFOADURIAID – Steve Eaves
Cyhoeddwyd: 08/06/11
TAITH FFOADURIAID – Steve Eaves
Bydd y canwr-gyfansoddwr Steve Eaves yn perfformio cyfres o gigs acwstig yn bennaf fel rhan o daith i hyrwyddo’r casgliad 5 CD newydd o’i hen recordiadau – ‘Ffoaduriaid’ (SAIN SCD 2633). Yn dilyn cyngerdd diweddar yn Y Drwm, Aberystwyth, mae’r daith yn symud ymlaen y penwythnos nesaf i’r Blue Sky Café ym Mangor ar nos Wener, Mehefin y 10fed a Gwesty’r Marine, Cricieth ar Nos Sadwrn, Mehefin 11eg, ac ymlaen wedyn i amryw o fannau eraill yng Nghymru cyn gorffen ar y 24ain o Orffennaf yng Ngŵyl Gardd Goll, Stad y Faenol, Bangor.
Mae ‘Ffoaduriaid’ yn gasgliad cynhwysfawr sy’n cynnwys saith albym a chaneuon unigol a gyhoeddwyd gan Steve rhwng 1984 a 1999. Yn un o eiconau canu cyfoes Cymru bu’n perfformio fel canwr a gitarydd ers mwy na phedwar degawd bellach ac mae’r casgliad hir-ddisgwyliedig hwn yn tynnu ynghyd ganeuon a ymddangosodd yn wreiddiol ar gasetiau, ar feinyl ac ar gryno-ddisgiau, ac sydd heb fod ar gael ers tipyn.
Ym mis Ebrill 2011 dyfarnwyd gwobr arbennig ‘Cyfraniad Oes’ i Steve Eaves gan Radio Cymru. Mae ei waith yn parhau’n ysbrydoliaeth i wrandawyr o bob oed ac i genhedlaeth newydd o gerddorion Cymraeg. Mae Steve hefyd yn awdur dwy gyfrol o’i gerddi, ac amlygir ei ddawn farddonol yn ei ganeuon cynnil, treiddgar a thelynegol. Mae’r casgliad ‘Ffoaduriaid’ yn cynnwys albyms megis ‘Cyfalaf a Chyfaddawd’, ‘Croendenau’ a ‘Y Canol Llonydd Distaw’ – pob recordiad yn arddangos didwylledd a gonestrwydd wrth ymdrin â phynciau megis cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, themâu ysbrydol ac anghyfiawnder cymdeithasol. Mae’r casgliad yn dangos dylanwad arddulliau’r blŵs, jas a roc ar waith Steve dros y blynyddoedd.
Mae Steve yn gitarydd acwstig medrus a chynnil ei arddull, sy’n canu gyda llais cynnes, agos-atoch-chi, ond hefyd efo rhywfaint o naws gras y blŵs. Mae ei fand yn cynnwys rhai o gerddorion gorau’r sin gerddoriaeth yng Nghymru, a bydd rhai ohonynt yn ymuno ag o ar hyd y daith, gan gynnwys y cerddor amryddawn Elwyn Williams (gitâr / llais), y baswr gwych ‘Funky’ Pete Walton (bâs dwbl), y drymiwr a chynhyrchydd Gwyn ‘Maffia’ Jones ac (ar ambell noson) Owen Hughes ar offerynnau taro.
Dyddiadau Taith Ffoaduriaid:
Nos Wener – 10/6/11 – BANGOR, BLUE SKY CAFÉ
Nos Sadwrn – 11/6/11 – CRICIETH, GWESTY’R MARINE
Nos Wener – 17/6/11 – LLANDEILO, GWESTY’R ANGEL
Nos Sadwrn – 18/6/11 – CAERDYDD, CLWB IFOR BACH
Nos Sadwrn – 2/7/11 – PWLLHELI, TAFARN Y WHITEHALL
Pnawn Sadwrn – 16/7/11 – DOLGELLAU, GWYL WERIN DOLGELLAU
Pnawn Sul – 24/7/11 – BANGOR, GWYL GARDD GOLL, STAD Y FAENOL



