Sain Records

Llythyr agored at BBC Radio Cymru

Annwyl Radio Cymru,

Yr ydym fel cwmni recordio a chwmni cyhoeddi yn cefnogi ymgyrch y cerddorion a’r cyfansoddwyr i godi’r raddfa ‘y funud’ a delir gan PRS ar gyfer cerddoriaeth ar Radio Cymru. Gofynnwn yn garedig felly, i chi barchu ein dymuniad i beidio chwarae unrhyw drac sydd ar label Sain, na unrhyw drac sydd ar unrhyw un o’n is-labeli, Crai, Rasal, Copa, Gwymon, Tryfan a Slic, na unrhyw drac oddi ar y labeli sy’n rhan o archif Sain, sef Gwynfryn, Cambrian a Welsh Teldisc, rhwng Rhagfyr 19eg a’r 21ain eleni.

Mae gan Ymddiriedolwyr y BBC gyfrifoldeb statudol dros y modd mae’r BBC yn gwario arian cyhoeddus y drwydded. Nid ydym yn teimlo fod y BBC yn gweithredu’r cyfrifoldeb hwn wrth gyflwyno taliad blanced i’r PRS am yr hawl i ddarlledu gweithiau. Mae’n rhaid i’r BBC sylweddoli fod y ffordd mae’r PRS yn dosrannu’r arian hwn ar gyfer gweithiau ar Radio Cymru (sef tua £0.50 y funud) yn andwyol i’r diwydiant cerdd yng Nghymru, yn difrïo’r gerddoriaeth, ac yn sicr o arwain at gwymp sylweddol mewn cynnyrch cerddorol newydd Cymraeg yn y dyfodol, fydd hefyd wrth gwrs yn andwyol i BBC Cymru.
Rydym yn gofyn, felly, ichi gefnogi cerddoriaeth Gymraeg, gan barchu dymuniad y cerddorion Cymraeg, a rhoi pwysau ar PRS i ail edrych ar anghysonderau eu systemau dosbarthu breindaliadau, a dosrannu eich taliad blanced yn decach.

Yn gywir,

Dafydd M Roberts
Prif Weithredwr/Chief Executive


Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00


Twitter