Sain Records

Y Bandana - Y Bandana

Y Bandana - CopaCD013

Does dim dwywaith fod Y Bandana wedi hawlio sylw o’r eiliad y taranon nhw ar y sin gerddorol yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl. Y perfformiadau egnïol, hanner noeth sy’n tynnu torfeydd ifainc o Gaernarfon i Gaerdydd. Ar ôl y gigio di-baid, sesiynau C2 a rhyddhau sengl nôl ym mis Awst, mae’r Bandana’n dechrau 2011 yn llawn addewid, wrth ryddhau eu halbwm gyntaf.

Mae’r arddegwyr yn trafod pethau sy’n eu cosi a’u cythruddo a’r albwm yn cynnig ychydig o bopeth i’r gwrandawyr. Ar un law, fe gewch straeon digri am fuchod yn torri gwynt a hanes y dyn drwg Mr Pei. Ar y llaw arall, mae’r band yn ymdrin ag achosion mwy personol; ceisio bachu hogan ddela’r ysgol, cadw ar ochr iawn criw o hogia caled, a’r seithugrwydd o gael eich trin fel plentyn. Dydyn nhw ddim yma i athronyddu na rhygnu `mlaen am wleidyddiaeth a’r credit crunch; mae nhw yma i joio. Dyna be ‘di apêl Y Bandana.

Dyma gerddoriaeth fywiog, sy’n adlewyrchu direidi’r band. Mae yma ddylanwadau o’r Beatles, i Arctic Monkeys i’r Race Horses, a’r cyfan yn cyfuno i greu “alawon sy’n fwy catchy nag anwyd”, yn ôl Sion Meirion Owens sy’n chwarae’r bas. Ac yn goron ar y cyfan, mae gafael a gallu’r hogiau ar eu hofferynnau’n dynnach na throwsus Sion Corn.

Rhestr y Traciau

  1. Dyna Be Di'r Son
  2. Yr Unig Beth Dwi Isio
  3. Siwgwr Candi Mel
  4. Clywch Clywch Buwch
  5. Dwi'm yn Fabi Dim Mwy
  6. Can y Tan
  7. P.R. @
  8. Anturiaethau Sali Mali
  9. Dal Dy Drwyn
  10. Wyt ty'n Nabod Me Pei
  11. Rheda am dy Fywyd
  12. Be Nawni
  • Rhifnod : CopaCD013
  • Label: Copa
  • Genre:
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2010

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelCopa