Sain Records

Y Trŵbz - Yn y Dechrau

Y Trŵbz - CopaCD022

Y Trŵbz o Ddyffryn Clwyd gyda’u halbwm newydd ‘ YN Y DECHRAU’. Dyma fand sy’n brysur gwneud eu marc ar y sîn roc Gymraeg gydag ychydig o ‘soul’, roc a ‘blues’ – cyfuniad gwych o riffs anhygoel a llais hollol unigryw a phwerus y prif leisydd – Mared Williams.

Blwyddyn yn ôl, roedd enw’r grwp Y Trwbz yn newydd i’r sin, ond roedd eu cerddoriaeth roc bachog yn siwr o hudo ac ers ennill y gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru yn 2014, mae’r pedwarawd o ochrau Dinbych wedi mynd o nerth i nerth gyda’r grwp yn rhyddhau eu halbym cyntaf ar label Copa yn yr Eisteddfod yn Meifod eleni … sef ‘yn y dechrau’.

Bu’r misoedd diwethaf yn brysur i’r band, gyda’r aelodau Morgan Elwy, Gruff Roberts, Tommo Lloyd a Mared Williams yn cyfuno arholiadau lefel A gyda sesiynau recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog. Bu Mared hefyd yn rhan o Gôr Glanaethwy a fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth Britain’s Got Talent ar ITV. Roedd llais pwerus Mared i glywed ar ddechrau perfformiad y côr o’r gân Y Weddi. Yn sicr mae gan Mared lais anhygoel, ac mae Morgan yn cyfeirio at hynny wrth iddo ateb gwestiwn yng nghylchgrawn y Selar am rol Mared a’i llais yn y grwp ‘Dwi’n meddwl fod Mared yn amazing. Mae ’di ennill yn y Genedlaethol a stwff , yn canu lot. Ma hi obviously efo talent.” Ac yn ôl Y Selar; ‘mewn sin gerddorol sy’n rhemp o fandiau roc ac indie gwrywaidd, mae llais Mared yn donic.’

Mae’r Trwbz yn nodi nifer o ddylanwadau cerddorol, o’r Foo Fighters i Paolo Nutini a Led Zeppelin, gyda’r dylanwadau yma i’w clywed yn arddull eu caneuon. Cyfansoddwyd y caneuon i gyd gan Y Trwbz ac roedd y band yn awyddus i fentro i’r stiwdio i recordio eu halbym cyntaf heb gymorth cynhyrchydd. Recordiwyd yr albym ar benwythnosau yn Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r peirianydd Sion Jones, rhoddwyd rhwydd hynt iddynt arbrofi a magu profiad stiwdio – gan ddatblygu eu swn a’u caneuon.

Rhestr y Traciau

  1. Yn y Dechrau
  2. Paid Aros am y Glaw
  3. Tic Toc
  4. Enfys yn y Nos
  5. Dyfaru
  6. Tyrd yn Ôl
  7. Brenin
  8. Ffarwelio â'r Haf
  9. One Day
  10. Fox Song
  • Rhifnod : CopaCD022
  • Label: Copa
  • Genre: Pop / Rock
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2015

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelCopa