Sain Records

Yr Ods - Nid Teledu Oedd y Bai

Yr Ods - CopaCD012

Wedi llwyddiant ei sengl ddiwethaf ym mis Medi llynedd, mae’r band bywiog Yr Ods yn dychwelyd yn well, yn aeddfetach ac yn barod am barti gyda rhyddhad ei hail sengl Fel Hyn am Byth ar label Copa.

Mae’r sengl newydd, sy’n cynnwys y ddwy gân Fel Hyn am Byth a Ffordd Ti’n Troi Dy Lygaid yn ddatblygiad cerddorol i’r band sydd bellach wedi mabwysiadu dipyn o synths a melodïau i’w sain gitâr arferol.

Dywedodd y band; Mae’r caneuon newydd yn synthi pop ac mae’r sŵn yn llawnach na chaneuon blaenorol, mae’n ddatblygiad enfawr o ran sain. Dim bo ni wedi gadael yr hen sŵn gitâr ar ôl, ond mae yna lot o synths a melodiau yn y sengl newydd. Hefyd mae Rhys Aneurin wedi ymuno ar y synths pan da ni’n chwarae’n fyw.

Wedi’i recordio yn Stiwdio Aeriel ym Mrechfa dan gynhyrchiad Tim Lewis mae’r sengl hon yn dangos talent y grŵp i gyfansoddi caneuon gafaelgar cofiadwy sy’n adleisio elefennau o steil grwpiau Cymraeg yr 80au wedi’i phlethu gyda synnau arbrofol roc seicadelig modern.

Dywedodd y cynhyrchydd a’r cerddor Dyl Mei; Mae Yr Ods yn feistri ar gymysgu gitar indie gyda phop modern gan greu caneuon bachog a chofiadwy. Dwi’n disgwyl ymlaen i glywed mwy gan Yr Ods sy’n ffynnu wrth berfformio’n fyw.

Ers rhyddhau y sengl cyntaf mae’r band wedi bod yn gigio’n gyson ac eisoes wedi dechrau cynllunio rhyddhau albym a fydd yn rocio; “dwi’m yn meddwl bod pobl yn barod am albwm eto, ond falle fydda nhw erbyn yr haf!” ychwanegodd y band.

Rhestr y Traciau

  1. Nid Teledu Oedd y Bai
  2. Cofio Chdi o'r Ysgol
  3. Paid Anghofio Paris
  4. Turn Around
  5. Y Bêl yn Rowlio
  • Rhifnod : CopaCD012
  • Label: Copa
  • Genre: Pop
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2010

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelCopa