Sain Records

Y Raplyfr Coll

Y Raplyfr Coll

Mae’n ddiwrnod pen-blwydd Rapsgaliwn, rapiwr gorau’r byd. Mae’n penderfynu cael parti a chyngerdd fawreddog i ddathlu’r achlysur ac yn danfon ei ffrind Pi-Po i ddosbarthu gwahoddiadau i’w ffrindiau, Sali Mali a Jac y Jwc, Oli Odl a Marcaroni, Twm Tisian a Betsan Brysur, ac wrth gwrs Gareth, Rachael, Trystan ac Einir. Yn ogystal â’i ffrindiau mae Rapsgaliwn hefyd wedi gwahodd ei gyfnither ifanc Dona Direidi. Ond yn anffodus mae Dona yn ddireidus iawn iawn ac yn bachu ar y cyfle i ddwyn y Raplyfr Hud a chwarae tric ar Rapsgaliwn a’i ffrindiau. Mae pawb yn cael eu swyno gan hud a lledrith y llyfr hud. Tybed a fydd y criw yn dod o hyd i’r Raplyfr mewn pryd, a tybed a fydd Dona yn llai direidus cyn diwedd y ffilm?

Mewn Stoc
£4.99 £9.99

  • Rhifnod : SAIN DVD 122

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords