Sain Records

Gwlad yr Astra Gwyn (Cyfres 1)

Gwlad yr Astra Gwyn (Cyfres 1)

Mae’r gyfres ddrama ysgafn Gwlad yr Astra Gwyn wedi bod yn hynod o boblogaidd gyda chynulleidfa S4C ac erbyn hyn mae modd ail fyw y gyfres gyntaf ar DVD.

Ymddangosodd Trefor a’i dacsi ar ein teledu gyntaf fel rhan o gyfres Ddoe am Ddeg ac roedd poblogrwydd y cymeriad yn ddigon i sicrhau cyfres i Trefor a’i gwsmeriaid. Mae’r gyfres wedi ei leoli yn gyfangwbwl o fewn tacsi Trefor y gyrrwr diniwed sy’n danfon ei gwmseriaid selog hwnt ac yma ac er mai ond am deithiau byr y gwelwn ei gwsmeriaid down i’w hadnabod yn well wrth i Trefor ymateb iddynt – Leanne sy’n ei garu er bod Trefor yn rhy naîf i sylwi; Elen sy’n ei gasau; Lisa yr un gwyllt a Jim Jones y dyn hanner call sy’n siwtio’r nwydwyllt Vera i’r dim ac ynghanol hyn i gyd cawn sobrwydd Alwyn ynghanol yr holl rialtwch. Ond mae elfen o dristwch yn perthyn i gwsmeriaid Trefor i gyd ond er gwaethaf hyn mae diniweidrwydd naturiol Trefor yn gweld yr ochr orau i bawb a phob sefyllfa ac nid yw byth yn digalonni.

Sketches:-
01. “Mardi-Gras ym Mangor Ucha”
02. “Cawl a nionod heb ddim lol a lobscows i lenwi’n mol”
03. “Mae un ac un yn ddau a chdi a fo di rhieni”
04. “Come on boy, hurry up”
05. “Mae’r ffŵl wedi dod ac mae’r ffŵl wedi mynd”
06. “Unwaith yn y flwyddyn rhaid dathlu’r diwrnod mawr”
07. “Weithiau rydw i’n gariad, weithia rydw i’n fasdad”
08. “Pan ro’n i’n ysgol”
09. “Sgin i’m byd i’w golli”
10. “Rhyw ferch yn gweiddi – ‘Hi Man!’”
11. “Ti’n cynnig rhif dy ffôn, fel mathemateg pur”
12. “Ar strydoedd Aberstalwm”

Amser – 145 Munud

Tyst. – 15 – Cynnwys yn anaddas i rai dan 15 oed

Mewn Stoc
£4.99 £12.99

  • Rhifnod : Sain DVD 132

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords