Sain Records

The Gentle Good - Tethered for the Storm

The Gentle Good - GWYMONCD013

Ydi, mae’r gaeaf ar ein gwarthaf. Y dail a’r glaw yn gawodydd. Ond `stynnwch flanced (brethyn os yn bosib) a gadewch i Tethered For the Storm, ail albwm hir ddisgwyliedig The Gentle Good eich cynhesu i’r byw.

Mae Gareth Bonello, y dyn `tu ôl i’r enw The Gentle Good, yn medru dal hudoliaeth rhyw hen hiraeth Cymreig mewn un CD. Mae’n bwydo ei ganeuon gwreiddiol â holl faeth caneuon gwerin traddodiadol, ac eto’n cynnig rhywbeth newydd. Rhywbeth a fydd, fel cynnyrch gwerinol gwerth ei halen, yn gwrthsefyll traul amser.

Yn debyg i albwm gyntaf The Gentle Good – While You Slept I Went Out Walking – ceir casgliad o caneuon dwyieithog. Er bod yr un swn yn perthyn i’r ddwy albwm, y tro hwn, mae Gareth Bonello wedi gwahodd amryw o gerddorion eraill i ychwanegu at y gwead. Mae llais unigryw Cate le Bon yn plethu trwy’r caneuon ac mae’r ddeuawd iasol ddigyfeiliant rhwng Gareth Bonello a Lisa Jen, 9Bach yn berl ynghanol y casgliad. Ceir chwarae sensitif gan Bedwarawd Llinynnol Mavron, Harriet Earis ar y delyn, Dewi Parri ar y bas, Steven Goundrey ar y gitâr drydanol a Jack Egglestone ar y drymiau (ie, drymiau) ac mae cynhyrchu Llion Robertson yn priodi’r cyfan yn ofalus at ei gilydd.

Felly diolchwch am yr oerni a’r gwynt.

Rhestr y Traciau

  1. Aubade
  2. Colled
  3. Pamela
  4. Deuawd
  5. Holly Blue
  6. Old Window Song
  7. Llosgi Pontydd
  8. Tethered for the Storm
  9. Ocean is King
  10. Cysgod y Dur

Lawrlwytho Yn Unig
£9.99

  • Rhifnod : GWYMONCD013
  • Label: Gwymon
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2010

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Gwymon