Sain Records

The Gentle Good - Dawel Disgyn (Finyl)

The Gentle Good - GWYMON Finyl002

Gareth Bonello, yr artist o’r ddinas yw The Gentle Good ac mae’n falch cael cyflwyno ei EP newydd, Dawel Disgyn sy’n cael ei ryddhau ar CD a finyl ar label Gwymon. Er iddo gael ei eni ac ymgartrefi yng Nghaerdydd, mae ei waith yn adlewyrchu rhyddid y wlad a’i ysbrydoliaeth yn hanu o fyd natur.

Yn cael ei ysbrydoli gan gantorion unigol yn canu gyda threfniadau llinynnol fel Nick Drake ar Five Leaves Left, mae Dawel Disgyn yn cyflwyno caneuon gyda sail gwerinol ond teimlad fwy cyfoes. Tra bod Dawel Disgyn yn parhau gwefr addfwyn a thyner cydnabyddus The Gentle Good, mae hefyd yn diffinio ei sain acwstig yn bellach, gan gynnig ymdeimlad braf ac hwyliog eto’n glyd ac hudolus. Mae’r EP yn cynnwys dwy gân Cymraeg a dwy gân Saesneg, un ohonynt yn ailgymysgiad o ‘Amser’.

Cawn y gymysgedd acwstig disgwyliedig o gitâr a banjo, ond mae hefyd yn ein cyflwyno i soddgrwth, metalophone a glockenspiel gydag eiliadau o’r ffidl, a hyn oll i gyd wedi’u perfformio gan y dyn ei hun ag eithrio talent anhygoel Seb Goldfinch ar y ffidl a llais cefndir mwyn Lindsey Leven. Mae’r harmonïau’n hawdd gan barhau’r tôn breuddwydiol ac mae llais Gareth yn gyfoethog ond eto’n addfwyn.

Dywedodd y cyflwynydd Radio 1 Huw Stephens,

“Mae diddordeb a cariad Gareth tuag at gerddoriaeth werin a acwstig yn gwbl amlwg o’r eiliad gyntaf chi’n clywed ei gerddoriaeth. Mae’n bur ac yn onest, yn awyddus i fynd a chi i fyd arall tra’n gwbl gyffyrddus yn y byd mae’n bodoli.”

Mae Gareth wedi perfformio mewn gwyliau fel Y Sesiwn Fawr, yr Eisteddfod, Gwyl y Dyn Gwyrdd, In the City a South by Southwest. Rhyddhaodd EP ei hun yn 2005 ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn ymddangosodd ar CD Nadolig Boobytrap. Mae e hefyd wedi recordio sesiwn byw i Radio Cymru ac hefyd yn chware banjo i’r Silver Spurs.

Rhestr y Traciau

  1. Dawel Disgyn
  2. The Hitcher
  3. Amser
  4. Waiting for Jane
  • Rhifnod : GWYMON Finyl002
  • Label: Gwymon
  • Genre: Folk
  • Fformat: EP
  • Dyddiad Rhyddhau: 2007

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Gwymon