Sain Records

Winabego - Hyder Bregus

Winabego - RASALCD003

Ffurfiwyd Winabego yng Ngwanwyn 2002. Bu iddynt weithio’n galed ar eu caneuon cynnar yn ystod y flwyddyn honno cyn perfformio’n fyw am y tro cyntaf yn Y Railway ym Mangor yn cefnogi The Keys. Ers y dyddiau cynnar mae Winabego wedi gigio’n solad ledled Cymru. Yn ddiweddar bu i Winabego hedleinio ei gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Darlledwyd eu Sesiwn C2 ym mis Mai, 2004. Gallwch glywed y sesiwn, sy’n cynnwys fersiwn cynnar o’r trac, ‘Unarddeg Dyn i Lawr’ drwy logio ar bbc.co.uk/cymru/radiocymru/c2.

Aethant i Stiwdio SAIN ym mis Mehefin i ddechrau gwaith ar eu E.P. cyntaf. Dyma’r E.P cyntaf, sef ‘Hyder Bregus’ a bu’n ‘Record yr Wythnos’ ar raglen radio Huw Stephens. Cynhyrchwyd y recordiad gan Dyfrig Wyn Evans, gynt o Topper (mae Dyfrig hefyd yn frawd i Dylan, gitarydd Winabego).

Winabego ydi Dylan Wyn Evans, Aled Wyn Jones, Meic parry a Llew Roberts.

Mewn Stoc
£1.50 £2.98

  • Rhifnod : RASALCD003
  • Label: Rasal
  • Genre: Folk
  • Fformat: EP
  • Dyddiad Rhyddhau: 2004

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal