Sain Records

Llwybr Llaethog - Mega-Tidy

Llwybr Llaethog - Rasal CD007

Ugain mlynedd ar �l ei ffurfio, mae’n bleser gan RASAL gyhoeddi y bydd MEGA-TIDY, nawfed CD Llwybr Llaethog, sy’n cynnwys cantorion gwadd o bob rhan o Gymru, yn ei ryddhau ar Orffennaf yr 11eg.

Mae’r trac agoriadol, BOB DIM yn faled reggae gyda DELYTH EIRWYN yn canu llais cefn.

Mae Bethesda yn cynnwys samplau gan y SUPER FURRY ANIMALS dros guriad dawns egniol, tra bo GERAINT JARMAN yn canu mewn falsetto emosiynol ar SATTA YM MHONTCANA.

Mae’r album hefyd yn cynnwys Li’L Miss o Gaerdydd yn canu ar y gan pop/dawns egniol, TROUBLE BUBBLES. Seflydlodd a rheolodd Li’L Miss Rounda Records )Label hip hop yng Nghaerdydd) ac mae hi wedi perfformio ar Radio1 – One World Live, The Session in Wales, sesiynau John Peel a llwythi o gigs dros Brydain.

Mae’r ddeuwad hip hop newydd COFI BACH a TEW SHADY yn ymddangos ar Dwb gyda golwg ffraeth ar ddiwylliant cyffuriau Cymru.

Yn ymddangos am y tro cyntaf mae Elliw Iwan yn canu ar un o hoff ganeuon Radio Cymru dros y blynyddoedd diwethaf MEDDWL. Can ddawns serchog yn cynnwys melod�au arswydus ar y pibau Uileaidd yn cael ei chwarae gan STEPHEN PORTER.

Mae Chwyldro SAIN yn cynnwys Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith MC SLeifar, ochr yn ochr � ED Holden o’r grwp rap llwyddiannus PEP LE PEW.

Gyda remixes gan TEW SHADY a’r SUPER FURRY ANIMALS mae lle i’r albwm hon yn eich casgliad heb os.

Rhestr y Traciau

  1. BOB DIM
  2. BETHESDA
  3. SATTA YM MHONTCANNA
  4. TROUBLE BUBBLES
  5. VODYA
  6. FFLIO DUB
  7. CHWYLDRO SAIN
  8. MEDDWL
  9. DWB
  10. VODYA (TEW SHADY REMIX)
  11. TROUBLE BUBBLES (SUPER FURRY ANIMALS REMIX)
  • Rhifnod : Rasal CD007
  • Label: Rasal
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2005

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @LabelRasal