GWIBDAITH HEN FRAN - CEDORS HEN WRACH
Aelodau:
Philip Lee Jones (Phil Bach)-Slebog Cyfryngol o Lanfrothen sy’n chwarae efo’r grwpiau-Mim Twm Llai, Y Mistecs, Estella,Vates a Jac.
Robi Buckley(Rob‘d’Buck)-Töwr o Flaenau Ffestiniog,ac sy’n chwarae’r bas i Estella a Dy Fam.
Paul Thomas(Paul Toms)-Darpar athro o Flaenau Ffestiniog-Gwibdaith yw ei fand cyntaf.
Gethin Thomas(Mr T)-Plastrwr o Benrhyndeudraeth-Gwibdaith yw ei fand cyntaf.
Ffurfiwyd y band yn ystod Haf 2006 ar ôl i Gethin gael cynnig gig yn y Tap ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd Phil, Paul a Gethin wedi bod yn jamio’n aml yn Nhafarn y Ring yn Llanfrothen, a gyda dyddiad y gig yn agosáu, ymunodd Robi fel chwaraewr bâs.
Paul benderfynodd ar yr enw Gwibdaith Hen Frân, gyda dau brif reswm mewn golwg:
1.)Teyrnged i Jac y frân – hen frân yr oedd Phil wedi ei hachub â’i magu, ond, yn anffodus, mi hedfanodd yn syth i wal a bu farw!!
2.)Ysbrydolwyd y band gan y grwp o America – `The Old Crow Medicine Show’, pan oedd Gai Toms yn gwylio rhaglen Jules Holland, ac fe awgrymodd i Gethin i brynu’r CD.
George Formby yw un o’r artistiaid mwya’ adnabyddus a ddefnyddiai’r iwcalili, sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth enfawr i Gwibdaith Hen Frân, gyda’i steil o gyfansoddi a chanu caneuon yn un digri, a SAIN gyffrous yr iwcalili yn chwarae rôl hynod bwysig.
O ddifri?!…“Hwyl a chrac ‘da ni ‘isio, a dyna ‘da ni’n trio cael mewn gigs a gobeithio ein bod wedi cyfleu hyn yn yr albwm!” meddai Paul.
Agwedd y band tuag at fywyd yn gyffredinol yw peidio cymryd dim byd o ddifri. Mae eu hysbrydoliaeth i ysgrifennu’r caneuon wedi ei sbarduno gan hen gymeriadau’r pentref sydd a hanesion di-ri, digwyddiadau personol unigolion y band a’u bywyd o ddydd i ddydd.
Mewn Stoc
£9.99



