Sain Records

AL LEWIS BAND - SAWL FFORDD ALLAN

AL LEWIS BAND - RASAL CD028

Albwm chwaethus, cyfoethog ond eto’n addfwyn

Ar ôl inni gael blas o’r albwm newydd gyda’r gân addfwyn Tybed be Ddaw oddi ar ei EP ddiwethaf (Dilyn pob Cam), mae RASAL yn falch i gyflwyno Sawl Ffordd Allan, albwm gyntaf Cymraeg Al Lewis. Bydd lansiad swyddogol yr albwm yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd ar Fehefin 5ed.

Wedi’i ysbrydoli gan artistiaid fel Ryan Adams a’r grwp llwyddiannus Fleet Foxes, mae Al yn ganwr-cyfansoddwr talentog a chyfoes, sy’n gorwedd mewn man breuddwydiol rhwng Gareth Bonello a Jack Johnson. Mae’r albwm, sydd wedi’i gyfansoddi ar y cyd gydag Arwel Lloyd, yn cyflwyno 10 trac amrywiol. Cawn ychydig o roc melodig a baledi rhamantus sy’n diferu gyda melodïau hudolus a chofiadwy. Clywir hefyd SAIN y blues ar Gwenwyn, a berfformiwyd yn wych gan y chwedlonol Meic Stevens ar yr albwm. Dywedodd Al,

“Dechreuon ni drafod cael llais gwadd ar yr albwm a ro’n ni’n crafu pen am bwy i ofyn a pha gân fyddai’n addas. Wnaeth Arwel Lloyd a finnau sgwennu Gwenwyn a daethom ni i’r canlyniad mai llais llawn cymeriad Meic Stevens fyddai’n gweddu’r gân. Wnaeth Meic gytuno ac mae’n anrhydedd fawr i’w gael ar yr albwm.”

Mae Al yn canu am fywyd pob dydd gan blethu themâu fel cariad, colled, hiraeth ac ansicrwydd. Mae traciau anhygoel ar yr albwm ac mae aeddfedrwydd, datblygiad a chysondeb y band yn amlwg. Mae llais Al Lewis yn gyfoethog ond eto’n addfwyn ac ein gwneud ni i ddyheu am fwy.

Cafodd yr albwm ei recordio gan Llion Robertson yn Stiwdio Music Box, Caerdydd ac eithrio Hwyrach Heno a gafodd ei recordio gan Tim Hamill yn Stiwdio Sonic One yn Llangennech. Cawn glywed perthynas agos aelodau’r band sy’n cynnwys y gitarydd Arwel Lloyd sy’n cyd-ysgrifennu’r caneuon, Ryan Aston ar y drymiau a Wal Coughlan ar y bas.

  1. TRYWYDD IAWN
  2. DOED A DDEL
  3. DECHRAU AMAU
  4. FI FAWR
  5. PAID
  6. GWENWYN
  7. TYRD YN OL
  8. TYBED BE DDAW
  9. HWYRACH HENO
  10. LLE HOFFWN FOD
  • Rhifnod : RASAL CD028
  • Label: Rasal
  • Genre: Pop
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00


Twitter